Mae ein hymchwil cyfredol yn canolbwyntio ar glioblastoma, sef canser yr ymennydd angheuol. Rydym yn nodweddu model diwylliant celloedd 3D gan ddefnyddio meinwe tiwmor yr ymennydd yn uniongyrchol o lawdriniaeth. Bydd hyn yn ein galluogi i bersonoli meddyginiaethau i gleifion unigol a chael gwell dealltwriaeth o fioleg glioblastoma.
Rydym hefyd yn cydweithio â grwpiau ymchwil eraill o fewn Prifysgol Caerdydd a sefydliadau allanol i archwilio sut y gellir defnyddio ein model 3D i ddeall clefydau niwrolegol eraill yn well.
Er gwaethaf degawdau o ymchwil a miliynau o bunnoedd wedi’u gwario, mae canlyniadau cleifion i bobl sydd wedi cael diagnosis o glioblastomas yn dal yn wael iawn. Mae angen clir i ddatblygu triniaethau newydd i frwydro yn erbyn y clefyd. O fewn y tiwmorau hyn mae is-boblogaeth o gelloedd o’r enw celloedd bonyn sy’n gysylltiedig â gwrthsefyll triniaeth a datblygiad clefydau. Mae deall sut mae’r celloedd hyn yn rhyngweithio â’i gilydd a’u microamgylchedd yn faes ymchwil diddorol a fydd, gobeithio, yn arwain at well dealltwriaeth o’r clefyd angheuol hwn.

Ein cam nesaf yw cwblhau’r gwaith ar ein model 3D fel y gallwn symud ymlaen i ddatblygu paradigm meddygaeth bersonol gyda’r nod o helpu cleifion sy’n dioddef o’r clefyd ofnadwy hwn.
Search for: