Ymunwch â ni i ddathlu’r cleifion ac aelodau’r cyhoedd sydd wedi cymryd rhan mewn ymchwil
Bydd Uned BRAIN a’r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl (NCMH) yn cynnal digwyddiad Dydd Sadwrn 20 Ebrill i ddathlu’r cleifion ac aelodau’r cyhoedd sydd wedi cymryd rhan mewn ymchwil.
Bydd y digwyddiad yn dod â grwpiau ymgysylltu cyhoeddus a chleifion ynghyd, ymchwilwyr a’r cyhoedd sy’n rhannu un achos cyffredin: gweithio gyda’i gilydd i wella iechyd yr ymennydd.
Mae grwpiau cyfranogiad cleifion a’r cyhoedd (PPI) yn bartneriaeth hanfodol rhwng aelodau’r cyhoedd ac ymchwilwyr i wneud ymchwil yn fwy perthnasol, dibynadwy ac yn fwy tebygol o gael ei weithredu yn ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.
Bydd y digwyddiad hwn yn caniatáu i’r rhai sy’n bresennol ddweud eu dweud ar yr hyn y mae cynnwys y cyhoedd yn ei olygu iddynt, clywed straeon personol gan aelodau grŵp PPI BRAIN ac NCMH, a chymryd rhan mewn gweithgareddau rhyngweithiol sy’n gysylltiedig â’r ymennydd a thrafodaethau panel. Rydym hefyd yn cynnig teithiau labordy ymchwil (mae cadw eich lle yn hanfodol).
Mae hwn yn ddigwyddiad rhad ac am ddim ac rydym yn croesawu unrhyw un sydd â diddordeb mewn ymchwil i’r ymennydd a PPI i ymuno â ni.