BACK

SHARE

Facebook LinkedIn Twitter

Dyma gwrdd â’r technegydd: Dr Chloe Ormonde

Technegydd y labordy yn yr Uned BRAIN yw Dr Chloe Ormonde. Yn y darn hwn, mae Chloe yn rhannu taith ei gyrfa hyd yn hyn, a phaham ei bod hi’n mwynhau gweithio yn y labordy.

Amdanaf fi

Chloe ydw i, ac rwy’ wedi gweithio i’r brifysgol ers dros 16 mlynedd. Gwnes i astudio ym Mhrifysgol Caerdydd yn bersonol, lle cwblheais i radd BSc mewn Ffarmacoleg a PhD yn y gwyddorau cardiofasgwlaidd. Fe wnes i ymuno â grŵp labordy’r Athro William Gray a’r Uned BRAIN tua diwedd 2016. Pan nad ydw i yn y labordy, rwy’n fam brysur i ddau blentyn, mab sy’n bump oed, a merch sydd newydd droi’n 16 mis oed. Fel arfer, rwy’n treulio’r amser y tu allan i’r gwaith drwy archwilio’r meysydd chwarae amrywiol a geir o amgylch Caerdydd, adeiladu LEGO, ac ymarfer ‘geiriau cyntaf’ gyda fy merch. Dwi’n gogydd brwd, ac rwy’ wrth fy modd yn arbrofi gyda ryseitiau newydd gyda fy nheulu.

Fy swydd yn yr Uned BRAIN

Mae technegydd y labordy yn gyfrifol am oruchwylio’r holl weithgareddau a gynhelir o fewn y tîm ymchwil. Ar ddiwrnod arferol, rydyn ni’n helpu i baratoi’r broses o gasglu meinweoedd dynol sylfaenol a’u prosesu, sy’n cael eu tynnu o gleifion sy’n cael niwrolawdriniaeth ddewisol yn Ysbyty Athrofaol Cymru (YAC), Caerdydd. O dan y Ddeddf Meinweoedd Dynol, rydyn ni’n gyfrifol am gadw golwg ar yr holl weithgareddau meinwe dynol sy’n digwydd o fewn ein tîm ymchwil, a diweddaru’r rhestrau eiddo yn rheolaidd.

At hynny, rydyn ni’n cynnig cymorth technegol i’n grŵp ymchwil ac yn gyfrifol am dasgau megis archebu a gwirio stoc, cynhyrchu protocol, llunio asesiadau risg a gweithdrefnau gweithredu safonol. Ar ben hynny, rydyn ni’n rhoi cefnogaeth labordy drwy gynnal hyfforddiant i aelodau newydd o staff a myfyrwyr i weithio’n ddiogel yn y labordy a sicrhau’r defnydd cywir o offer y labordy.

Pam mae technegwyr y labordy mor bwysig?

Mae rôl y technegydd yn rhan annatod o’r tîm ymchwil. Mae’n bwysig gan ein bod ni’n rhoi cymorth ymarferol a thechnegol i bob aelod o staff a myfyriwr sy’n gweithio yn y labordy. Rydyn ni’n cynnal amrywiaeth o dechnegau labordy hanfodol ac arferol i gefnogi unrhyw brosiectau ymchwil gwyddonol parhaus, ac rydyn ni hefyd ynghlwm wrth dderbyn samplau, eu labelu a’u dadansoddi. Mae gennyn ni gyfrifoldeb dros sicrhau bod y labordy’n parhau i fod yn lle hawdd i’w ddefnyddio, a hynny drwy gadw’r meinciau yn y labordy yn lân ac yn drefnus, cael gwared ar unrhyw sbwriel a chadw golwg ar nwyddau traul y labordy megis adweithyddion a llestri plastig.

Yr hyn sy’n wych am fod yn dechnegydd y labordy yn fy marn i

Rydw i wastad wedi mwynhau astudio meithrin meinweoedd, ac roedd y ffaith bod yr Uned BRAIN yn gweithio’n uniongyrchol gyda meinweoedd dynol a gaiff eu casglu yn sgîl llawdriniaeth wir yn ennyn fy niddordeb yn y swydd hon. Roeddwn i’n chwilfrydig i weld sut y gellid cynhyrchu cynrychiolaeth 3D o feinweoedd ymennydd normal ac afiach yn y labordy. Roedd gen i ddiddordeb hefyd yn y posibilrwydd cyffrous o ddefnyddio’r meinweoedd hyn nid yn unig i ymchwilio’n agosach i’r prosesau cymhleth sy’n sail i glefyd niwrolegol, ond hefyd fel model i ragfynegi effeithiolrwydd clinigol triniaethau cyffuriau. Mae’r prosesau hyn yn ein helpu i nodi ymwrthedd, gwenwyndra, a chynorthwyo strategaethau therapiwtig.

Gan ddiolch i Chloe am ei holl gyfraniadau