BACK

SHARE

Facebook LinkedIn Twitter

Uned BRAIN yn cynnal digwyddiad ar y cyd â’r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl i ddathlu Cynnwys y Cleifion a’r Cyhoedd (PPI)

Ddydd Sadwrn 20 Ebrill, bu i’r Uned BRAIN a’r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl (NCMH) gynnal digwyddiad i ddathlu pwysigrwydd cynnwys y cleifion a’r cyhoedd (PPI) mewn ymchwil.

Er bod yr Uned BRAIN wrthi’n datblygu ac yn treialu therapïau datblygiedig ar gyfer clefydau niwroddirywiol, a’r NCMH yn ymchwilio i achosion anhwylderau iechyd meddwl, maen nhw ill ddau’n gytûn o ran yr achos a ganlyn: ‘Gweithio gyda’n gilydd i wella iechyd yr ymennydd’.

“Profiad byw yw rhan bwysicaf y pos ymchwil iechyd…”

Mae cynnwys y cyhoedd a chleifion yn rhan annatod o’r ymchwil a wneir yn yr Uned BRAIN a’r NCMH, gan ei bod yn dwyn ynghyd ymchwilwyr ac aelodau’r cyhoedd i helpu i lunio a llywio cyfeiriad yr ymchwil. Mae hyn oll yn sicrhau canlyniadau ymchwil sy’n fwy dibynadwy, yn fwy perthnasol, ac yn fwy tebygol o gael eu defnyddio er mwyn gwella’r gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.

Ar ddiwrnod y digwyddiad, rhoddwyd cyfle i grwpiau o’r uned BRAIN a’r NCMH gwrdd wyneb yn wyneb a mynd ar daith dywys o amgylch y labordy i gael gwybod mwy am y ffyrdd y mae samplau dynol yn cael eu defnyddio mewn ymchwil.

Wedi hynny, bu inni groesawu aelodau o’r cyhoedd i rwydweithio gydag ymchwilwyr a chymryd rhan mewn ‘gemau’r ymennydd’, a’r rheiny’n rhai rhyngweithiol. Cymerodd y bobl hynny ran mewn amryw o drafodaethau, gan gynnwys trafodaeth ar sut beth yw cymryd rhan mewn ymchwil iechyd yr ymennydd, a chyfweliad gyda Phrif Ymchwilydd a chyfarwyddwr yr Uned BRAIN, yr Athro William Gray.

Gwnaeth aelod o’r NCMH, Jacqueline Campbell, gyfweld â’r Athro Gray ynghylch ei brofiadau o fod yn niwrolawfeddyg a gweithio mewn partneriaeth â grwpiau PPI.

Meddai’r Athro Gray, “Mae cael y cyfle i fynd i ymennydd rhywun a gwneud gwahaniaeth cadarnhaol yn gymaint o fraint.”

“Mae’n bwysig bod gan bobl sydd â’r cyflyrau hyn lais ar sut mae’r treialon hyn yn cael eu cynnal. Maen nhw’n eiriolwyr dros ymchwil barhaus yn y meysydd hyn.”

Hwyl a sbri a gemau’r ymennydd

Rhoddwyd cyfle i’r sawl a ddaeth i’r digwyddiad ehangu a rhoi prawf ar eu dealltwriaeth o ymchwil iechyd yr ymennydd drwy amryw o stondinau rhyngweithiol a gemau’n ymwneud â’r ymennydd. Cafodd hyn oll eu cynnal gan ganolfannau o bob rhan o’r Is-adran Meddygaeth Seicolegol a’r Niwrowyddorau Clinigol ym Mhrifysgol Caerdydd.

Cynhaliodd ymchwilwyr o NMHII ddwy gêm ryngweithiol ar gyfer gwesteion, gan gynnwys y cyfle i ymarfer eu llaw ar bipedu a dyfalu o wahanol feintiau o ymennydd anifeiliaid mewn gêm o’r enw ‘Ymennydd pwy yw e beth bynnag?‘.

Mynychwyr yn ceisio pibellu.

Dangosodd staff sydd wedi’u lleoli yn y Ganolfan Geneteg a Genomeg Niwroseiciatrig sut y gellir defnyddio pŵer barddoniaeth i fynegi profiadau o wahanol ddiagnosisau iechyd meddwl ac anhwylderau’r ymennydd trwy ysgrifennu cerddi Pumawd (Cinquain).

Yn y digwyddiad, roedd yna hefyd brofiadau pen-set Realiti Rhithwir, Pinio’r bêl ar yr ymennydd a’r bythol boblogaidd ‘Stroop Mat’.

Fe wnaethon ni hefyd ofyn i westeion gymryd rhan yn ein gweithgaredd Paentio ymennydd a ddangosodd sut mae gwahanol rannau o’r ymennydd yn gyfrifol am wahanol swyddogaethau a phrosesau, megis symudiad a chof.

Gwyddonwyr bocs sebon

Yn ogystal â chlywed straeon PPI personol, gwahoddwyd y rhai a oedd yn bresennol hefyd i ddarganfod mwy am feysydd ymchwil penodol yn yr adran a gofyn cwestiynau i’n ‘gwyddonwyr bocs sebon’.

Roedd y sgyrsiau byr hyn yn amrywio o eneteg sgitsoffrenia sy’n gwrthsefyll triniaeth, y defnydd o realiti rhithwir (VR) mewn gofal iechyd, a sut gall salwch meddwl effeithio ar y cof.

Dywedodd arweinydd BRAIN Involve, Dr Cheney Drew, ”

“Mae Uned Cyweirio’r Ymennydd a Niwrotherapiwteg Mewngreuanol (BRAIN) a Chanolfan Genedlaethol Iechyd y Meddwl (NMCH) yn canolbwyntio ar sicrhau bod llais y cyhoedd a chleifion yn parhau i fod wrth wraidd yr ymchwil rydyn ni’n ei wneud. Roedd digwyddiad heddiw wedi ein galluogi ni i barhau â’r sgyrsiau pwysig hynny rhwng ymchwilwyr a chyfranwyr o’r cyhoedd. Mae’n bwysig i ni roi adborth i’n cyfranwyr am y eu gwerth yn rhan o’r tîm a’r effaith maen nhw’n ei gael ar ymchwil. Roedd y digwyddiad heddiw yn ffordd bleserus iawn o allu gwneud hynny.”

Hoffen ni ddiolch i bawb a ddaeth i’r digwyddiad am eu cyfraniadau gwych ar y diwrnod.