BRAIN Involve

Rydym ni’n dod â chleifion, gofalwyr ac academyddion at ei gilydd i ffurfio ymchwil arloesol i glefydau niwrolegol a niwroddirywiol.

Yn BRAIN rydym ni’n credu bod cyfranogiad gweithredol gan aelodau o’r cyhoedd yn arwain at ymchwil sy’n fwy perthnasol, mwy dibynadwy ac yn fwy tebygol o gael ei defnyddio i wella gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn chwarae rôl yn siapio ein gwaith, gallwch ddod yn aelod o gymuned BRAIN Involve.

 

Beth yw BRAIN Involve?

BRAIN Involve yw’r grŵp cynnwys y cyhoedd a chleifion sy’n helpu i lywio ein gweithgareddau ymchwil. Mae’n cynnwys pobl y mae clefydau niwrolegol fel epilepsi, clefyd Huntington, Sglerosis Ymledol neu glefyd Parkinson yn effeithio arnynt.

Beth fyddai’n rhai i fi ei wneud?

Fel aelod o BRAIN Involve byddai gofyn i chi gymryd rhan yng ngweithgareddau craidd Uned BRAIN. Gallai hyn gynnwys mynychu cyfarfodydd gyda thîm Uned BRAIN neu helpu i drefnu, cadeirio a mynychu cyfarfodydd gydag aelodau eraill o BRAIN Involve. Byddai tîm gweinyddol BRAIN yn eich helpu chi i wneud hyn.

Dyw bod yn aelod o BRAIN Involve ddim yn golygu cymryd rhan mewn ymchwil ond yn hytrach ddefnyddio eich profiadau i helpu i lywio a datblygu syniadau a phrosiectau ymchwil sy’n berthnasol i chi. Mae llawer o ffyrdd y gallwch gyfrannu at ymchwil yn BRAIN:

  • Mynychu digwyddiadau ymchwil BRAIN
  • Adolygu grantiau ymchwil
  • Adolygu deunyddiau astudio ymchwil, taflenni
  • Ysgrifennu grantiau ymchwil
  • Datblygu, cyfrannu at a mynychu digwyddiadau lle’r ydym ni’n lledaenu ein canfyddiadau

 

Adnoddau

Ymuno â BRAIN Involve

Ymunwch heddiw a chliciwch yma i gwblhau ffurflen gais BRAIN Involve

Ymunwch â ni