BACK

SHARE

Facebook LinkedIn Twitter

Arweinydd BRAIN Involve yn traddodi darlith gyhoeddus ar therapïau uwch i drin clefyd niwroddirywiol

Ddydd Iau 7 Rhagfyr,  traddododd Dr Cheney Drew, arweinydd BRAIN Involve ddarlith gyhoeddus ar y defnydd o therapïau uwch i drin clefyd Huntington a Parkinson.

Roedd y ddarlith hon yn rhan o gyfres o ddarlithoedd cyhoeddus Science in Health , a gynhelir gan Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd. Mae’r gyfres yma o ddarlithoedd cyhoeddus, sy’n rhad ac am ddim, yn croesawu cynulleidfa amrywiol, boed y cyhoedd, disgyblion ysgolion uwchradd neu weithwyr proffesiynol.

Yn ystod y ddarlith, siaradodd Dr Drew am sut y gellir defnyddio therapïau uwch (ATMP) yn lle therapïau cyffuriau traddodiadol i drin clefyd niwroddirywiol.

Rhennir therapïau ATMP yn dri phrif gategori:

  • Therapi genynnau: pan fydd genyn cyfan neu gyfran fach o enyn yn cael ei gosod yn y corff
  • Therapi celloedd: pan fydd celloedd yn cael eu newid i drin a thargedu afiechyd, a
  • Peirianneg meinweoedd: pan fydd cyfuniad o gelloedd a sgaffaldwaith meinweoedd yn cael eu haddasu fel y bydd modd atgyweirio neu adfywio’r feinwe neu osod meinwe arall yn y corff.

Mae treialon clinigol mewn ATMPs fel therapi genynnau a therapi amnewid celloedd ar y gweill ar hyn o bryd i weld a ydynt yn ddiogel ac yn effeithiol i’w defnyddio mewn pobl â chlefydau niwroddirywiol fel Huntington’s a Parkinson’s.

Eglurodd Dr Drew yn union sut y defnyddir y therapïau hyn a’r hyn y mae ymchwil treialon clinigol yn ei ddweud wrthym ar hyn o bryd ynglŷn ag effeithiolrwydd, diogelwch a phrofiad y claf.

“Weithiau, bydd treialon clinigol yn anodd iawn i bobl gymryd rhan ynddyn nhw. Mae’n bwysig iawn ein bod yn monitro asesiadau a diogelwch y deilliannau ond ar ben hynny ein bod yn deall profiadau’r sawl sy’n cymryd rhan ac yn cefnogi eu gallu i eirioli ar gyfer therapïau’r dyfodol.”

Gwylio’r ddarlith a chofrestru ar gyfer y ddarlith gyhoeddus nesaf yng nghyfres Gwyddoniaeth mewn Iechyd.

Tags: