Rydym ni’n darparu cyfleusterau diogel, ansawdd uchel ar gyfer treialon clinigol masnachol ac anfasnachol mewn cydweithrediad â Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro
Cyfleuster ymchwil clinigol â 4 gwely yw’r Uned Ymchwil Niwrowyddoniaeth (NRU) sy’n cynnal astudiaethau masnachol ac anfasnachol.
Uned BRAIN sy’n darparu’r NRU mewn cydweithrediad â Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.
Lleolir yr NRU mewn ward niwroleg glinigol ar bedwerydd llawr Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd.
Mae’r NRU yn darparu amgylchedd ansawdd uchel lle gall cleifion ymgymryd â rhaglenni ymchwil yn ddiogel ac yn effeithiol yn dilyn astudiaethau sy’n gadarn yn wyddonol ac wedi’u cymeradwyo’n foesegol. Mae hefyd yn cynnig amrywiol wasanaethau cymorth nyrsio a chronfeydd data mewnol.
Neuroscience research unit, 4th Floor, University Hospital of Wales, Heath Park, Cardiff, CF14 4XW
brainunit@cardiff.ac.ukOs hoffech wybod mwy am uned BRAIN a beth rydym ni’n ei wneud, cysylltwch
Cysylltu