Cyflwyno Mewngreuanol

Elfen graidd o’n ffocws ar gyflwyno Mewngreuanol yw cyflwyno trawsblaniad celloedd ffetysol dynol mewn treial HD (TRIDENT – yr unig astudiaeth o’i math yn fyd-eang ar hyn o bryd), a therapïau oligoniwcleotid gwrth-synnwyr intrathecal gyda Roche.

Rydym ni’n datblygu dyfeisiau newydd, arbenigol sydd wedi’u hoptimeiddio ar gyfer cyflwyno therapi celloedd a therapïau eraill yn fewngreuanol, mewn cydweithrediad â phartneriaid diwydiannol, gan ddatblygu o brofi mewn modelau labordy hyd at werthuso clinigol.

Dros y flwyddyn ddiwethaf rydym ni wedi sicrhau’r holl gymeradwyaeth reoleiddiol angenrheidiol ar gyfer pob cam o dreial TRIDENT.  Roedd y trawsblaniad TRIDENT cyntaf wedi’i drefnu ar gyfer 17 Mawrth 2020 ond bu’n rhaid oedi mewn ymateb i gynllun gweithredu covid-19 Llywodraeth Cymru oedd yn cynnwys canslo pob llawdriniaeth ddewisol.

diagram

I asesu perfformiad dyfais cyflwyno celloedd, rydym ni’n cynaeafu celloedd dynol sylfaenol, yn trosi’r celloedd gyda biofflwroleuedd i alluogi olrhain celloedd byw mewn amser real, ac yna’n cyflwyno’r celloedd yn defnyddio’r ddyfais cyflwyno i gel (yn debyg i’r ymennydd dynol) â’r nod o gyflwyno’r ddyfais hon i ymchwil drosiadol.

Hoffech chi gysylltu â ni?

Neuroscience research unit, 4th Floor, University Hospital of Wales, Heath Park, Cardiff, CF14 4XW

brainunit@cardiff.ac.uk

Hoffech chi sgwrs?

Os hoffech wybod mwy am uned BRAIN a beth rydym ni’n ei wneud, cysylltwch

Cysylltu