Rydym ni ar drothwy cyfnod newydd o therapïau a allai addasu clefydau ar gyfer niwroddirywiad a chlefydau niwrolegol eraill (yn bennaf Clefyd Huntington, epilepsi, sglerosis ymledol a chlefyd Parkinson), gyda llawer o’r mwyaf addawol angen eu cyflwyno’n uniongyrchol i’r system nerfol ganolog.
Mae hyn yn cyflwyno nifer o heriau, a mynd i’r afael â’r heriau hyn yw ffocws ymchwil uned BRAIN gan gynnwys;
Clefyd etifeddol prin yw clefyd Huntington sy’n achosi dirywiad cynyddol yng nghelloedd nerfol yn yr ymennydd. Mae clefyd Huntington yn cael effaith eang ar alluoedd ymarferol yr unigolyn ac mae fel arfer yn arwain at anhwylderau symud, meddwl (gwybyddol) a seiciatrig.
Anhwylder yn y system nerfol ganolog (niwrolegol) yw epilepsi lle mae gweithgaredd yr ymennydd yn mynd yn annormal, ac yn achosi ffitiau neu gyfnodau o ymddygiad anarferol, teimladau, ac ambell waith golli ymwybyddiaeth.
Cyflwr sy’n gallu effeithio ar yr ymennydd a madruddyn y cefn yw sglerosis ymledol (MS), gan achosi amrywiaeth eang o symptomau posibl, yn cynnwys problemau golwg, symud y breichiau neu’r coesau, teimlad neu gydbwysedd.
Anhwylder cynyddol yn y system nerfol yw clefyd Parkinson sy’n effeithio ar symudiad. Mae’r symptomau’n dechrau’n raddol, weithiau’n cychwyn gyda chryndod ysgafn mewn un llaw. Mae cryndod yn gyffredin, ond mae’r anhwylder hefyd yn aml yn achosi anystwythder neu’n arafu symudiadau.
Cyfarfod â thîm
Uned BRAIN