BACK

SHARE

Facebook LinkedIn Twitter

Lansio Canolfan Clefyd Huntington yng Nghymru yn hebrwng cyfnod newydd o gydweithio i mewn

Bu’r Uned BRAIN yn falch iawn o allu cefnogi lansiad Canolfan Clefyd Huntington newydd yng Nghymru. Cafodd y Ganolfan ei lansio yn Adeilad Hadyn Ellis, Prifysgol Caerdydd ddydd Mercher 8 Mawrth, 2024.

Clefyd niwroddirywiol a etifeddir yw Clefyd Huntington (HD), ac sy’n achosi i gelloedd yn yr ymennydd gael eu colli, gan effeithio ar feddwl, symudiadau, ymddygiad ac iechyd meddwl.

Wrth groesawu pawb yn gynnes i’r lansiad, esboniodd yr Athro Anne Rosser mai hebrwng cyfnod newydd i mewn ar gyfer ymchwil HD a wna lansio Canolfan Clefyd Huntington yng Nghymru. Y nod yw dwyn ynghyd ymchwilwyr ar draws sawl disgyblaeth, sefydliad a sector ledled Cymru i gydweithio ac i hyrwyddo ymchwil o safon fyd-eang ym maes HD.

Mae ehangder a dyfnder lleol yr arbenigedd ym maes ymchwil HD, boed dealltwriaeth sylfaenol o fioleg clefydau neu brofi therapïau newydd yn glinigol, yn rhoi cyfle gwych inni geisio dod o hyd i driniaethau a all arafu neu atal HD rhag datblygu.

Mae’r ganolfan hefyd yn cydnabod pwysigrwydd bwrw ati i roi cymorth i bobl a theuluoedd sy’n byw gyda HD, felly un o brif themâu’r ganolfan yw cynnal ymchwil at ddiben ceisio lleihau’r effaith y mae HD yn ei chael ar deuluoedd, gan weithio ochr yn ochr â sefydliadau allweddol sy’n canolbwyntio ar y claf.

Bydd y ganolfan yn parhau i weithio law yn llaw â’i chydweithwyr ym Mhrifysgol Caerdydd, ac yn eu plith mae’r Uned BRAIN, y Sefydliad Arloesi er Niwrowyddoniaeth ac Iechyd Meddwl (NMHII), y Ganolfan Geneteg a Genomeg Niwroseiciatrig (CNGG) a Chanolfan Ymchwil Delweddu’r Ymennydd Prifysgol Caerdydd (CUBRIC).

Edrycha’r Uned BRAIN ymlaen at adeiladu ar y sylfaen ragorol o ymchwil ym maes HD, a hynny drwy gydweithio.

Tags: