Amdanom ni

Cyllidir Cyweirio’r Ymennydd a Niwrotherapiwteg Mewngreuanol (BRAIN) gan Lywodraeth Cymru drwy seilwaith Ymchwil Gofal ac Iechyd Cymru, ac mae’n uned ymchwil sy’n datblygu therapiwteg a systemau cyflwyno triniaeth newydd ar gyfer cyflyrau niwrolegol.

Mae BRAIN yn gweithredu dan y cyfarwyddwr yr Athro William Gray gyda 31 o brif ymchwilwyr a chydweithwyr, a chyfanswm incwm grant o dros £34 miliwn ers ei sefydlu yn 2015.

Ein Cenhadaeth

Ein gweledigaeth yw y bydd uned Cyweirio’r Ymennydd a Niwrotherapiwteg Mewngreuanol (BRAIN) yn ganolfan rhagoriaeth genedlaethol i Gymru a’r DU ac ar y llwybr at fod yn arweinydd byd-eang ar gyfer:

  1. Cyflwyno therapïau celloedd/genynnau/moleciwlau bach a therapïau arloesol cymhleth eraill i’r ymennydd dynol.
  2. Cefnogi ymchwil drawsfudol sy’n sail ar gyfer addasu clefydau ac atgyweirio’r ymennydd mewn cleifion â chyflyrau niwrolegol.

Ein nodau ar gyfer y tair blynedd nesaf yw:

  1. Datblygu systemau newydd a mireinio’r rhai presennol ar gyfer cyflenwi therapiwteg i’r ymennydd dynol
  2. Datblygu seilwaith priodol ar gyfer:
    1. Datblygu adnoddau meinwe ymennydd oedolion a ffetysol, cefnogi ymchwil drawsfudol a dilysu therapïau ar draws clefydau niwrolegol
    2. Bio-fancio a rheoli bio-adnoddau’n defnyddio data clinigol cysylltiedig ac wedi’u ffenoteipio’n ddwys
  3. Cyfnerthu ac ehangu treialon clinigol priodol ac arbenigedd, gan gynnwys mireinio methodolegau priodol ar gyfer gwerthuso ymyriadau cymhleth newydd
  4. Gwreiddio rhagoriaeth drawsbynciol yn holl waith BRAIN, mewn perthynas â:
    1. Ymwneud ac Ymgysylltu â’r Cyhoedd a Chleifion
    2. Ymgysylltu a Chydweithio gyda Diwydiant a’r GIG
Rhagor o wybodaeth

Cyfarfod â thîm
Uned BRAIN

Cwrdd â’r tîm