BACK

SHARE

Facebook LinkedIn Twitter

Cwrdd â’r Ymchwilydd: Dr Benjamin Dummer

Mae Dr Benjamin Dummer yn Gynorthwy-ydd Ymchwil sy’n gweithio mewn labordy yn Ysbyty Athrofaol Cymru (UHW), dan oruchwyliaeth yr Athro Liam Gray.

Yr ymchwil

Mae ein hymchwil bresennol yn canolbwyntio ar glioblastoma, sef canser marwol ar yr ymennydd. Rydym yn nodweddu model meithrin celloedd 3D gan ddefnyddio meinwe tiwmor yr ymennydd yn uniongyrchol o lawdriniaethau. Bydd hyn yn ein galluogi i sicrhau bod meddyginiaethau yn addas i gleifion unigol a’n bod yn cael gwell dealltwriaeth o fioleg glioblastoma.

Rydym yn cydweithio â grwpiau ymchwil eraill hefyd ym Mhrifysgol Caerdydd a sefydliadau allanol i archwilio sut y gellir defnyddio ein model 3D i ddeall clefydau niwrolegol eraill yn well.

Er gwaethaf degawdau o ymchwil a gwario miliynau o bunnoedd, mae deilliannau i gleifion ar gyfer pobl sy’n cael diagnosis o glioblastomas yn wael iawn o hyd. Mae’n amlwg bod angen datblygu triniaethau newydd i frwydro yn erbyn y clefyd. O fewn y tiwmorau hyn mae is-boblogaeth o gelloedd o’r enw bôn-gelloedd sy’n gysylltiedig â datblygiad sy’n gallu gwrthsefyll triniaeth a chlefyd. Mae deall sut mae’r celloedd hyn yn rhyngweithio â’i gilydd a’u micro-amgylchedd yn faes ymchwil hynod ddiddorol a fydd, gyda lwc, yn arwain at well dealltwriaeth o’r clefyd marwol hwn.

Beth sy’n digwydd nesaf?

Ein cam nesaf yw cwblhau’r gwaith ar ein model 3D fel y gallwn symud ymlaen at ddatblygu patrwm meddyginiaeth sydd wedi’i phersonoli gyda’r nod o helpu cleifion sy’n dioddef o’r clefyd erchyll hwn.

 

 

 

Tags: