Uchafbwyntiau Ymchwil

Hydref 2021

 

Mae arolwg newydd yn gobeithio helpu ymchwilwyr i ystyried manteision cynnwys cleifion a’r cyhoedd (PPI).

Er mwyn deall yn well sut i fanteisio i’r eithaf ar aelodau gwych BRAIN Involve rydym yn gofyn i ymchwilwyr gwblhau arolwg yn trafod rôl bresennol cynnwys cleifion a’r cyhoedd (PPI) mewn ymchwil sy’n astudio cyflyrau niwrolegol neu niwroddirywiol.

Mae BRAIN Involve yn grŵp cynnwys y cyhoedd a chleifion sy’n helpu i lywio a siapio ein gweithgareddau ymchwil. Mae’r grŵp hwn yn cynnwys aelodau o’r cyhoedd sydd, neu sydd wedi cael eu heffeithio’n uniongyrchol gan glefydau niwrolegol.

Drwy ddod â’u profiadau personol i’r bwrdd ymchwil, mae aelodau’n cyfrannu at ddylunio, datblygu, gweithredu a lledaenu ymchwil ynghylch trwsio’r ymennydd a datblygu therapïau newydd ar gyfer cyflyrau’r ymennydd.

Drwy’r arolwg hwn, rydym yn gobeithio darganfod y ffyrdd y gall aelodau BRAIN Involve gefnogi ein hymchwilwyr yn well a taflu goleuni ar fanteision cynnwys PPI mewn ymchwil.