Y Labordy Meinwe Dynol

I gefnogi’r gwaith o ddatblygu therapïau newydd mewn Niwrowyddoniaeth a Niwro-oncoleg mae angen i ni allu cael meinwe dynol fel meinwe ymennydd oedolion a ffetysol, gwaed a Hylif Serebro-sbinal (CSF).

Gan ategu ein Labordy Meinwe Dynol, rydym ni hefyd yn gweithio ar draws dau safle yng Nghaerdydd ac Abertawe i gefnogi Biofancio Niwrolegol a ffenoteipio meinwe. Dysgwch fwy am Fiofancio

Ar gyfer beth y caiff y Labordy Meinwe Dynol ei ddefnyddio?

  • Ehangu modelau cell a meinwe dynol ar gyfer astudio clefydau
  • Mecanweithiau
  • Cynhyrchu therapïau newydd
  • Dilysu targedau ac arwyddo newidiadau

Rydym ni wedi sefydlu cyfleuster meinwe oedolion dynol unigryw i berfformio meithriniad 2D a 3D o feinwe ymennydd ar gyfer modelu clefydau

O ble y caiff y meinwe ei gasglu?

Daw’r meinwe ar gyfer ymchwil drwy gasglu meinwe gormodol a dynnir yn ystod llawdriniaeth ar yr ymennydd. Mae’r llawdriniaethau hyn yn cynnwys:from brain surgery. Surgeries include:

  • Llawdriniaeth Epilepsi
  • Llawdriniaeth Tiwmor
  • Llawdriniaeth Anaf Pen

Ar gyfer beth y caiff y meinwe ei ddefnyddio?

Rydym ni’n defnyddio meithriniadau o’r ymennydd dynol i astudio sut mae’r ymennydd yn gweithio a beth sy’n mynd o’i le mewn clefydau. Rydym ni’n edrych ar:

  • Ymchwil sylfaenol ar glefyd niwrolegol mewn Epilepsi, anaf trawmatig i’r ymennydd (TBI) ac oncoleg

Trosi a dilysu mecanweithiau a therapïau posibl o astudiaethau anifeiliaid mewn:

  • Modiwleiddio imiwnedd
  • Therapi celloedd
  • Therapïau Feirysol Oncolytig
  • Cyflwyno Therapi Genynnau
  • Dadansoddi Llwybr Biosynthetig Lipidau

Rhagor o wybodaeth am Fiofancio yn BRAIN

Biofancio

Case studies

  • ASTUDIAETH ACHOS 1: Meithrin meinwe’r Ymennydd Dynol mewn 3D

    Rydym ni’n defnyddio dull unigryw ar gyfer meithrin meinwe’r ymennydd dynol i astudio mencanweithiau clefydau a phrofi therapïau newydd. Mae’r meithriniadau hyn yn 3-dimensiwn ac yn dal heterogenedd celloedd yr ymennydd dynol. Mae hyn yn gadael i ni ymchwilio i glefydau niwrolegol gwahanol, (e.e. epilepsi, anaf trawmatig i’r ymennydd a chanser) a modelu ymatebion unigol i therapïau posibl.

    Figure 2: Golwg 3D pŵer isel o feithriniadau’n dangos celloedd nerfol, gila a chelloedd imiwnedd

    Figure 3: GFAP+ Astrosytau (gwyrdd) sy’n caniatáu i ni astudio celloedd gila

    Figure 4: Celloedd imiwnedd– microglia mewn meithriniadau yn ein helpu i edrych ar y llid yn yr ymennydd

  • ASTUDIAETH ACHOS 2: Diagnosis Cynnar o Haint ar yr Ymennydd

    Gan ddefnyddio samplau o Hylif Serebro-sbinal o gleifion yr amheuir bod ganddynt haint rydym ni’n archwilio’r defnydd o farcwyr imiwnedd i roi diagnosis cywir o glefyd yn llawer cynharach na gyda meithriniadau microbioleg safonol ac felly’n trin cleifion yn gynharach.

    Prosiect cydweithredol gyda’r Athro M Eberl, Dr S Cuff, Dr J Merola a’r Athro W Gray.

    Figure 4: Celloedd imiwnedd – microglia mewn meithriniadau yn ein helpu i edrych ar y llid yn yr ymennydd

     

  • ASTUDIAETH ACHOS 3: Darparu Meinwe Bonyn Embryonig a Ffetysol i fodelu a dilysu therapïau amnewid celloedd

    Mae ein casgliad o feinwe ffetysol dynol (hF) yn unigryw yn y DU ac yn darparu meinweoedd ymennydd hF ansawdd uchel ar gyfer ymchwil a defnydd clinigol. Rydym ni wedi defnyddio’r meinwe hwn ar gyfer ymchwil therapi amnewid celloedd cyn-glinigol critigol (CRT), deall mecanweithiau niwroddirywol a datblygiadol ac fel sail ar gyfer treialon clinigol CRT.

    Mae ein gwaith yn darparu:
    • Celloedd rhoddwyr hF Safonol yr Awdurdod Meinwe Dynol ar gyfer treialon CRT clinigol (RfPPB yn cyllido TRIDENT)
    • Meinwe hF ansawdd ymchwil i wella goroesiad y celloedd, atgyweirio cylched ac ymarferoldeb, ac optimeiddio methodoleg cyflwyno.
    • Celloedd hF ansawdd ymchwil fel dilysiad safon aur ar gyfer datblygu CRTS yn deillio o hES a hiPS
    • Celloedd hF ansawdd ymchwil ar gyfer modelu clefydau in vitro ac in vivo.

    Figure 7: Astudio cynhyrfedd trydanol celloedd nerfol dynol. Mae hynafiaid niwron yn deillio o fôn-gelloedd dynol wedi’u hystyried fel ymgeisydd posibl ar gyfer therapi amnewid celloedd. Dechreuodd y celloedd nerfol dynol sydd wedi’u labelu’n wyrdd ennill gweithgaredd trydanol ar ôl cael eu cyd-feithrin gyda astrosytau dynol am 2 wythnos. Arsylwyd cyfradd tanio uwch yn y niwronau hyn 4 wythnos ar ôl y cyd-feithriniad. Caiff y model hwn ei optimeiddio ymhellach i efelychu’r microamgylchedd patholegol ac ymchwilio ei effaith ar hynafiaid niwron sydd wedi’u trawsblannu ar gyfer astudiaethau dynol.