Biofancio

Darllenwch fwy am ein cyfleusterau Biofancio a ffenoteipio clinigol yng Nghymru

Banc Meinweoedd Ymchwil Niwrowyddoniaeth Cymru (Caerdydd)

Mae Banc Meinweoedd Ymchwil Niwrowyddoniaeth Cymru (WNRTB) yn gweithredu fel storfa o samplau a roddwyd gan gleifion a gwirfoddolwyr yng Nghymru a Lloegr. Y nod yw helpu ymchwil i achosion, diagnosis a thriniaeth clefydau niwrolegol.

Cylch gorchwyl:

Casgliad o samplau o feinwe dynol a hylifau’r corff yw Banc Meinweoedd Ymchwil Niwrowyddorau Cymru a gasglwyd oddi wrth unigolion sydd wedi derbyn diagnosis niwrolegol neu sy’n cael ymchwiliadau niwrolegol, yn ogystal â gwirfoddolwyr iach o Gymru a Lloegr. Nod y banc meinwe yw cefnogi ymchwil a all helpu i ddysgu mwy am yr hyn sy’n achosi clefyd niwrolegol, sut i’w atal a sut i’w drin.

Pwy ydym ni?

The WNRTB is directed by Professor Neil Robertson with Dr Sam Loveless working as the WNRTB Co-ordinator.

Pwy sy’n cael rhoi?

Caiff cleifion a gwirfoddolwyr roi os ydyn nhw:

  • yn 16 oed neu’n hŷn
  • yn cael ymchwiliad am gyflwr niwrolegol;
  • wedi cael diagnosis niwrolegol;
  • yn wirfoddolwr iach
  • yn hapus i’r sampl gael ei ddefnyddio ar gyfer ymchwil enetig

Pa samplau ydym ni’n eu casglu?

  • Gwaed (cyflawn, serwm phlasma)
  • DNA
  • Wrin
  • Ewinedd
  • Gwallt
  • Poer
  • Hylif Serebrosbinal (CSF)*
  • Celloedd CSF*
  • Meinwe’r ymennydd*
  • Meinwe nerfol perifferol*

*Dim ond os yw’n rhan o ofal clinigol rheolaidd y gellir cael samplau o Hylif Serebro-sbinal (CSF), meinwe’r ymennydd a meinwe nerfol perifferol. Mae gwirfoddolwyr iach yn cael rhoi gwaed a phoer yn unig.

Llywodraethu:

Mae WNRTB wedi derbyn cymeradwyaeth lawn Gwasanaeth Moeseg Ymchwil Cenedlaethol REC3 Cymru tan 2024 [19/WA/0058] a chaiff yr holl samplau eu dal dan Drwydded yr Awdurdod Meinwe Dynol mewn labordy ymchwil Prifysgol Caerdydd yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd. Goruchwylir gweithrediad WNRTB gan bwyllgor llywodraethu WNRTB, a’i rôl yw sicrhau bod samplau’n cael eu defnyddio’n briodol mewn prosiectau ymchwil perthnasol. Caiff cefnogaeth lawn gan Ymddiriedolaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro ac fe’i hwylusir gan staff labordy clinigol a niwrowyddoniaeth dan reolaeth Dr. Samantha Loveless.

I gael rhagor o wybodaeth: 

Biofanc Niwroleg Abertawe

Mae Biofanc Niwroleg Abertawe (SNB) yn casglu gan wirfoddolwyr ar draws Cymru a’r DU. Mae gennym ddiddordeb yn achosion a thriniaeth cyflyrau fel epilepsi, sglerosis ymledol a Chlefyd Parkinson.

Pwy ydym ni?

Dr Owen Pickrell yw cyfarwyddwr SNB gyda chefnogaeth panel ymgynghorol o ymchwilwyr clinigol ac academaidd.

Pwy sy’n cael rhoi?

  • Cewch chi roi sampl a’ch data clinigol os ydych chi:
  • yn 16 oed neu’n hŷn
  • yn cael ymchwiliad am gyflwr niwrolegol;
  • wedi cael diagnosis niwrolegol;
  • yn wirfoddolwr iach
  • yn hapus i’r sampl gael ei ddefnyddio ar gyfer ymchwil enetig

Cysylltwch â ni


Adnoddau