BACK

SHARE

Facebook LinkedIn Twitter

Taflu goleuni ar Gynnwys ac Ymgysylltu â Chleifion a’r Cyhoedd (PPI)

Wrth i ni symud i ffwrdd oddi wrth heriau COVID, rydym wedi gallu manteisio ar offer ar-lein ac ailddychmygu sut rydym yn cynnwys ac ymgysylltu.

Mae ein grŵp Brain Involve yn parhau i gyfarfod ar-lein; mae hyn wedi galluogi lledaeniad daearyddol ledled Cymru ac mae cynlluniau ar y gweill ar gyfer gweithgareddau wyneb yn wyneb yn ystod y flwyddyn i ddod. Mae ein tîm Brain Involve wedi llywio a chefnogi ceisiadau grant a chymrodoriaeth ar gyfer uwch wyddonwyr ac ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa.

O’r Brownis a’r Cybiau, i bobl sy’n byw gyda chlefydau niwroddirywiol yn y Deyrnas Unedig a thramor, mae ein rhaglen ymgysylltu wyneb yn wyneb wedi cael ei chroesawu’n ôl yn wresog. Un o’n digwyddiadau mwyaf oedd diwrnod llawn o weithgareddau a gyflwynwyd i dros 300 o ddisgyblion mewn 2 ysgol gynradd leol.

Roedd hyn yn rhan o Ŵyl Radur a Threforgan a chafodd gefnogaeth fawr gan Headway Caerdydd, sef elusen anafiadau i’r ymennydd. Cymerodd pawb ran mewn dysgu am yr ymennydd, profi eu hymennydd eu hunain, gwasanaethau llawdriniaeth yr ymennydd a chael bownsio ar yr ymennydd llawn aer! Yn ogystal, cynhyrchodd disgyblion Blwyddyn 6 rai lluniau a cherddi hynod greadigol a ysbrydolwyd gan ein diwrnod ac mae’r adnoddau a grëwyd bellach wedi cael eu defnyddio mewn ysgolion cynradd eraill.

Rydym hefyd wedi ymgysylltu’n helaeth â’r gymuned cleifion. Rydym wedi dod yn sbardun pwysig, gan sicrhau bod lleisiau cleifion yn cael eu clywed yn rheolaidd yng nghynhadledd y Rhwydwaith Trawsblannu ac Adfer CNS Ewropeaidd (NECTAR) a gynhaliwyd eleni yn Athen yn 2022, gan drefnu sesiynau sy’n caniatáu i gleifion rannu eu llais yn uniongyrchol â gwyddonwyr.

Ym mis Tachwedd, cynhaliom ddiwrnod cleifion a theuluoedd clefyd Huntington, gan ddod â’r cymunedau cleifion, clinigol a gwyddonol ynghyd i rannu’r ymchwil sy’n digwydd. Mae ein hymgysylltiad yn ein galluogi i feithrin ymddiriedaeth gyda’n cymunedau lleol sy’n arwain at gyfranogiad cadarnhaol, gan weithio gyda phobl sy’n byw gyda chlefydau niwroddirywiol i ffurfio a llywio ein gwyddoniaeth.

Un enghraifft o’n gweithgareddau cynnwys eleni fu grwpiau ffocws a gynhaliwyd gyda phobl sy’n byw gyda sglerosis ymledol, gan drafod eu barn am brofion genetig a’u prognosis. Rydym hefyd wedi gweithio’n agos gyda phobl â chlefyd Parkinson i greu adnoddau i’w cynorthwyo i gymryd rhan mewn treialon clinigol.