BACK

SHARE

Facebook LinkedIn Twitter

Gweminar astudio LEARN yn datgelu profiadau cyfranogwyr ar dreialon niwrolawfeddygol

Daeth cyfranogwyr, cyllidwyr a phrif ymchwilwyr at ei gilydd i drafod prif ganfyddiadau astudiaeth ddiweddar gan Brifysgol Caerdydd, ac i gyflwyno adnoddau y gall pobl â chlefyd Parkinson a’u cefnogwyr eu defnyddio wrth ystyried cyfrannu at ymchwil. 

Mae astudiaeth LEARN yn fyrfodd am ‘wrando ar brofiadau cyfranogwyr sy’n cymryd rhan mewn treialon niwrolawfeddygol’. Ei nod oedd ceisio deall profiadau a hefyd unrhyw rwystrau o ran cymryd rhan mewn treialon ffarmacolegol, a threialon sy’n ymwneud â therapïau uwch. Ei nod hefyd oedd gweld beth yw’r ddealltwriaeth ynghylch treialon clinigol ymhlith poblogaeth gyffredinol clefyd Parkinson.  

Casglodd ymchwilwyr y data hwn drwy gyfweliadau â chyfranogwyr treialon ac arolwg ychwanegol a gynhyrchwyd mewn cydweithrediad â Cure Parkinson’s UK. Cafodd cynnwys y cyfweliad ei lywio gan grŵp ymgynghori cyfranogwyr, grŵp cynghori moeseg a grŵp cynghori annibynnol sy’n cynnwys niwrolawfeddygon, ymchwilwyr ac unigolion sydd â phrofiad bywyd o glefyd Parkinson (PD).  

Trwy ddadansoddi’r trawsgrifiadau o’r cyfweliadau, bu’n bosib i ymchwilwyr nodi materion allweddol sy’n effeithio ar brofiad y cyfranogwr ac fe ddefnyddiwyd y rhain wedyn i greu adnoddau addysgiadol a allai helpu i wella’r profiad o gymryd rhan mewn treialon niwrolawfeddygol yn y dyfodol a lleihau rhai o’r problemau a allai achosi i bobl roi’r gorau i fod yn rhan o ymchwil.  

“Mae’r astudiaeth wedi tynnu sylw at lawer o faterion y mae angen eu datrys cyn i dreialon niwrolawfeddygol pellach gael eu cynllunio,” meddai Lesley Gosden, cyfranogwr yn astudiaeth LEARN.  

Y materion allweddol a nodwyd oedd heriau sy’n gysylltiedig â delweddu’r ymennydd, cymryd rhan mewn treialon clinigol pan nad yw’r cyfranogwr yn cymryd eu meddyginiaeth, a chymorth i bartneriaid cymorth, yn ogystal â’r angen i ddeall a chofio llawer o wybodaeth am y treial.  

Roedd y Prif Ymchwilwyr, Dr Emma Lane a Dr Cheney Drew yn falch o gyflwyno sawl fideo gwybodaeth a chanllawiau ysgrifenedig ar bob un o’r meysydd hyn er mwyn i gyfranogwyr a’u gofalwyr gael eu cefnogi a’u paratoi’n well mewn treialon yn y dyfodol.  

Dywedodd y partner cymorth, Jayne Calder, “Rwy’n credu bod astudiaeth LEARN wedi creu cyfle i wella taith cyfranogwr o’r dechrau i’r diwedd.”

Gwyliwch y weminar