Arolwg newydd: cynnwys y cyhoedd yn eich ymchwil

Hoffai BRAIN Involve helpu ymchwilwyr i ystyried manteision cynnwys y cyhoedd wrth lunio eu hymchwil i gyflyrau niwrolegol a niwroddirywiol.

Mae BRAIN Involve yn grŵp cynnwys y cyhoedd sy’n cynnwys pobl sydd wedi cael eu heffeithio’n uniongyrchol gan glefydau niwrolegol fel epilepsi , clefyd Huntington (HD), Sglerosis Ymledol (MS) neu glefyd Parkinson (PD).

Drwy ddod â’u profiadau personol i’r bwrdd ymchwil, mae aelodau’n cyfrannu at ddylunio, datblygu, gweithredu a lledaenu ymchwil ynghylch atgyweirio’r ymennydd a datblygu therapïau newydd ar gyfer cyflyrau’r ymennydd.

Cwblhewch yr arolwg

Cwblhewch yr arolwg byr heddiw i’n helpu i ddeall i ba raddau y defnyddir PPI mewn cyflyrau niwrolegol a niwroddirywiol a gweld sut y gallai BRAIN Involve lunio a llywio eich ymchwil.

X

Search for: