I gefnogi’r gwaith o ddatblygu therapïau newydd mewn Niwrowyddoniaeth a Niwro-oncoleg mae angen i ni allu cael meinwe dynol fel meinwe ymennydd oedolion a ffetysol, gwaed a Hylif Serebro-sbinal (CSF).
Gan ategu ein Labordy Meinwe Dynol, rydym ni hefyd yn gweithio ar draws dau safle yng Nghaerdydd ac Abertawe i gefnogi Biofancio Niwrolegol a ffenoteipio meinwe. Dysgwch fwy am Fiofancio
Rydym ni wedi sefydlu cyfleuster meinwe oedolion dynol unigryw i berfformio meithriniad 2D a 3D o feinwe ymennydd ar gyfer modelu clefydau
Daw’r meinwe ar gyfer ymchwil drwy gasglu meinwe gormodol a dynnir yn ystod llawdriniaeth ar yr ymennydd. Mae’r llawdriniaethau hyn yn cynnwys:from brain surgery. Surgeries include:
Rydym ni’n defnyddio meithriniadau o’r ymennydd dynol i astudio sut mae’r ymennydd yn gweithio a beth sy’n mynd o’i le mewn clefydau. Rydym ni’n edrych ar:
Trosi a dilysu mecanweithiau a therapïau posibl o astudiaethau anifeiliaid mewn:
Rhagor o wybodaeth am Fiofancio yn BRAIN
BiofancioRydym ni’n defnyddio dull unigryw ar gyfer meithrin meinwe’r ymennydd dynol i astudio mencanweithiau clefydau a phrofi therapïau newydd. Mae’r meithriniadau hyn yn 3-dimensiwn ac yn dal heterogenedd celloedd yr ymennydd dynol. Mae hyn yn gadael i ni ymchwilio i glefydau niwrolegol gwahanol, (e.e. epilepsi, anaf trawmatig i’r ymennydd a chanser) a modelu ymatebion unigol i therapïau posibl.
Gan ddefnyddio samplau o Hylif Serebro-sbinal o gleifion yr amheuir bod ganddynt haint rydym ni’n archwilio’r defnydd o farcwyr imiwnedd i roi diagnosis cywir o glefyd yn llawer cynharach na gyda meithriniadau microbioleg safonol ac felly’n trin cleifion yn gynharach.
Prosiect cydweithredol gyda’r Athro M Eberl, Dr S Cuff, Dr J Merola a’r Athro W Gray.
Mae ein casgliad o feinwe ffetysol dynol (hF) yn unigryw yn y DU ac yn darparu meinweoedd ymennydd hF ansawdd uchel ar gyfer ymchwil a defnydd clinigol. Rydym ni wedi defnyddio’r meinwe hwn ar gyfer ymchwil therapi amnewid celloedd cyn-glinigol critigol (CRT), deall mecanweithiau niwroddirywol a datblygiadol ac fel sail ar gyfer treialon clinigol CRT.