Yr hyn na wyddoch efallai am glefyd Parkinson
Mae tua 145,000 o bobl yn byw gyda Parkinson’s yn y DU, a dyma’r cyflwr niwrolegol sy’n tyfu gyflymaf yn y byd. Ar gyfer Wythnos Ymwybyddiaeth Parkinson’ mae Dr Emma Lane o Uned BRAIN yn trafod y clefyd a rhai pethau nad ydych chi’n eu hadnabod efallai.
Beth yw clefyd Parkinson?
Cyflwr niwrolegol yw clefyd Parkinson sy’n achosi niwed cynyddol i’r ymennydd dros lawer o flynyddoedd.
Nid oes gan bobl â chlefyd Parkinson ddigon o’r cemegyn dopamin oherwydd bod rhai o’r celloedd nerfol sy’n ei gynhyrchu wedi marw.
Mae llawer o driniaethau a therapïau gwahanol ar gael i helpu i reoli’r cyflwr.
Mae’n effeithio ar tua 1 o bob 500 o bobl ond mae hyn yn cynyddu gydag oedran; gan godi i 1 o bob 100 o bobl dros 60 oed a 3 o bob 100 o bobl dros 80 oed.
Ymhlith y symptomau mae cryndodau, symudiadau araf a chyhyrau anystwyth ac anhyblyg.
Gall pobl sydd â’r cyflwr hefyd brofi problemau iechyd meddwl fel iselder a gorbryder.
Ffeithiau am glefyd Parkinson
Er bod diagnosisau o glefyd Parkinson yn parhau i gynyddu ledled y byd, nid yw’r cyflwr yn cael ei ddeall yn dda bob amser.
1. Mae gan glefyd Parkinson arogl
Mae rhai pobl yn gallu ‘arogli clefyd Parkinson’ ac mae hyn wedi arwain at ymchwil ragorol i sut y gall clefyd Parkinson effeithio ar y croen ac a oes modd defnyddio hyn i ganfod y clefyd.
Yn groes i hyn, symptom posibl arall o glefyd Parkinson yw colli’r gallu i arogli rhai bwydydd fel bananas, picls dil a licris.
2. Mae clefyd Parkinson yn fwy na chyflwr echddygol yn unig
Mae symptomau anechddygol yn cael mwy o sylw gan feddygon ac ymchwilwyr. Mae’r symptomau hyn yn cynnwys (ymhlith eraill) nam gwybyddol neu ddementia (fel arfer yn ystod camau diweddarach y cyflwr), gorbryder, iselder, blinder a phroblemau cysgu.
I rai cleifion, mae symptomau anechddygol yn achosi mwy o analluogrwydd na symptomau echddygol, sy’n cael y sylw o ran triniaeth.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn siarad â’ch meddyg am faterion eraill er mwyn i chi allu mynd i’r afael â’ch holl symptomau.
3. Nid yw clefyd Parkinson yn glefyd angheuol
Er bod diagnosis o glefyd Parkinson yn dorcalonnus, nid yw, fel mae rhai efallai’n dal i gredu, yn arwain at farwolaeth.
Nid yw clefyd Parkinson yn lladdwr uniongyrchol, fel strôc neu drawiad ar y galon. Mae llawer yn dibynnu ar ansawdd eich gofal, gan eich meddyg a gennych chi eich hun. Mae rhai cyffuriau da iawn sy’n helpu i reoli llawer o’r symptomau.
Efallai y bydd y newidiadau i’ch osgo a’ch cydbwysedd yn eich gwneud yn fwy agored i gwympiadau. Mae’r rhain yn rhesymau pam mae ymarfer corff a therapi corfforol mor bwysig.
4. Nid oes gan unrhyw ddau berson yr un symptomau yn union
Yn aml mae dilyniant symptomau ychydig yn wahanol o un person i’r llall oherwydd amrywiaeth y clefyd a newid wrth i’r clefyd ddatblygu.
Mae llawer o bobl yn meddwl am glefyd Parkinson fel y cyflwr ‘sy’n achosi crynu ‘. Mewn gwirionedd, dim ond tua thraean o bobl sy’n profi cryndodau fel rhan o’u clefyd.
Gall pobl â chlefyd Parkinson brofi arafwch yn eu symudiadau, anhyblygrwydd yn y breichiau a’r coesau, newidiadau yn y ffordd y maent yn cerdded a phroblemau gyda chydbwysedd.
Mae newid mewn llawysgrifen, yn benodol llawysgrifen sydd wedi dod yn llai neu’n fwy mân, neu wyneb â llai o fynegiant, hefyd yn symptomau.
5. Nid yw’r achos yn hysbys ac nid oes modd ei wella ar hyn o bryd
Mae’r hyn sy’n achosi clefyd Parkinson yn parhau i fod yn anhysbys
Mae geneteg yn achosi tua 10 i 15 y cant o’r holl achosion o glefyd Parkinson. Mae’r 85 i 90 y cant arall o achosion yn cael eu dosbarthu fel ‘ysbeidiol’ neu ‘achlysurol ‘.
Er nad oes modd ei wella ar hyn o bryd, mae sefydliadau fel Parkinson’s UK yn gweithio i newid hynny. Mae opsiynau triniaeth yn amrywio ac yn cynnwys meddyginiaethau a llawfeddygaeth.
6. Rhedeg neu gerdded?
Yn aml mae pobl sydd â chlefyd Parkinson yn ei chael yn haws gwneud mathau eraill o weithgarwch na cherdded.
Gall rhedeg neu reidio beic fod yn haws na cherdded.
Gall mynd trwy ddrysau fod yn her benodol ac mae gan bobl sydd â chlefyd Parkinson strategaethau i ddelio ag amgylchiadau sy’n gwneud iddynt ‘rewi’ ar linellau ar y carped neu’r drysau.
7. Mae’r hyn rydych chi’n ei fwyta yn gwneud gwahaniaeth
Mae’r cyffuriau sy’n trin clefyd Parkinson yn helpu i ailgyflenwi’r cemegyn yn yr ymennydd, dopamin, sy’n cael ei golli wrth i gelloedd yr ymennydd farw.
Gall hyn weithio’n effeithiol iawn ond gellir ei wella gyda newidiadau mewn deiet.
Gall lefelau uchel o brotein yn y diet atal y cyffuriau rhag cyrraedd yr ymennydd i wneud eu gwaith, felly mae rheoli pryd a beth rydych chi’n ei fwyta o amgylch eich meddyginiaeth yn gallu gwneud gwahaniaeth enfawr i’w heffeithiau.
8. Trin clefyd Parkinson
I bobl sydd â chlefyd Parkinson, mae ymarfer corff yn fwy nag iach, mae’n elfen hanfodol i gynnal cydbwysedd, symudedd a gweithgareddau byw pob dydd.
Gall ymarfer corff a gweithgarwch corfforol wella llawer o’i symptomau. Gall o leiaf ddwy awr a hanner yr wythnos arafu’r dirywiad mewn ansawdd bywyd.
Gall tai chi, ioga, Pilates, dawns, hyfforddiant pwysau a bocsio digyswllt gael effeithiau cadarnhaol.
Bydd eich arbenigwr clefyd Parkinson yn gallu cefnogi’r gwaith o reoli eich symptomau gyda meddyginiaeth ac arweiniad ar gyfer mathau eraill o gymorth.
Ceisio cyngor meddygol
Os ydych chi’n poeni y gallai fod gennych chi neu rywun rydych chi’n ei adnabod symptomau clefyd Parkinson, fe’ch cynghorir i weld meddyg teulu.
Bydd yn eich holi am y problemau rydych yn eu profi a gall eich cyfeirio at arbenigwr ar gyfer rhagor o brofion.
Gweithio yn Uned BRAIN
Daw Dr Lane i’r casgliad: “10 mlynedd yn ôl, roedd ymchwil fasnachol i glefydau niwroddirywiol yn ei chael hi’n anodd. Bu newid enfawr yn ddiweddar gyda sawl dull cyffrous ac amrywiol o drin Parkinson’s yn cyrraedd treialon clinigol.
“Yn yr Uned BRAIN rydym yn angerddol am sicrhau bod lleisiau cleifion yn cael eu clywed fel rhan o’r datblygiadau cyffrous hyn ac maent ar y daith hon gyda ni i chwilio am driniaethau effeithiol.”
Dysgwch fwy am waith sydd ar y gweill gyda BRAIN Involve, grŵp cynnwys y cyhoedd a chleifion Uned BRAIN sy’n cynnwys pobl sydd, neu sydd wedi cael eu heffeithio, gan glefydau niwrolegol.