BACK
NEWS
A ydych chi’n ymchwilydd sy’n awyddus i gynnwys y cyhoedd yn eich gwaith?

SHARE

Facebook LinkedIn Twitter

A ydych chi’n ymchwilydd sy’n awyddus i gynnwys y cyhoedd yn eich gwaith?

Mae ein harweinydd Cynnwys y Cyhoedd, Dr Emma Lane, yn gwahodd ymchwilwyr i gwrdd â’n grŵp cynnwys y cyhoedd, BRAIN Involve.

  • A oes gennych ddiddordeb mewn cwrdd ag aelodau o’r cyhoedd?
  • A ydych chi eisiau cael gwybod am brofiad bywyd rhywun sydd â’r clefyd rydych chi’n ei astudio?
  • A hoffech chi rannu eich gwybodaeth gyda nhw?
  • A fyddai gennych ddiddordeb mewn safbwynt newydd ar eich ymchwil?
  • A ydych chi’n gweithio mewn labordy ac nid yn credu y byddai cynnwys y cyhoedd yn gweithio i chi?

Os byddwch chi’n ateb yn gadarnhaol i unrhyw un o’r rhain, yna dewch i gael gwybod mwy yn BRAIN Involve!

Bydd llawer o ymchwilwyr wedi cymryd rhan, i raddau mwy neu lai, mewn gweithgareddau ymgysylltu â’r cyhoedd.

Mae cynnwys y cyhoedd yn mynd gam ymhellach ac yn gwahodd aelodau o’r cyhoedd i gymryd rhan fel cyfranwyr cyhoeddus i ymchwil. Gallant yn aml roi sylwadau ar eich gwaith mewn ffordd sy’n graff ac yn wahanol i bersbectif eich cydweithwyr ymchwil a’ch goruchwylwyr a gallant gynnig mewnbwn amhrisiadwy i elfennau sy’n wynebu’r cyhoedd yn eich ymchwil.

Gall fod yn fwy heriol ond, hyd yn oed os ydych wedi eich lleoli mewn labordy, gall hyn fod yn hynod werthfawr, ysgogol ac arloesol!

Pwy ydym ni?

Yn BRAIN, rydym yn credu bod cyfranogiad gweithredol gan aelodau o’r cyhoedd yn arwain at ymchwil sydd yn fwy perthnasol a dibynadwy ac yn fwy tebygol o gael ei defnyddio er mwyn gwella gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.

Grŵp sy’n cynnwys y cyhoedd a chleifion yw BRAIN Involve sy’n helpu i lywio ein gweithgareddau ymchwil. Mae’n cynnwys pobl y mae clefydau niwrolegol fel epilepsi, clefyd Huntington, sglerosis ymledol neu glefyd Parkinson yn effeithio arnynt neu wedi effeithio arnynt.

Rydym yn agored i unrhyw un o’n hymchwilwyr ar unrhyw lefel sydd am rannu eu hymchwil ar yr ymennydd gyda’n cyfranogwyr BRAIN Involve, unrhyw un sy’n chwilio am gyfranwyr cynnwys y cleifion a’r cyhoedd, ac unrhyw un sy’n dymuno dysgu mwy.

Cysylltwch â ni

Cofrestrwch eich diddordeb gan ddefnyddio ein ffurflen ar-lein

Tags: