Dod â chleifion, gofalwyr ac academyddion ynghyd i lunio ymchwil arloesol i glefydau niwrolegol a niwroddirywiol.
Yn BRAIN credwn fod cyfranogiad gweithredol gan aelodau o’r cyhoedd yn arwain at ymchwil sy’n fwy perthnasol, yn fwy dibynadwy ac yn fwy tebygol o gael ei ddefnyddio i wella gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.
Oes gennych chi ddiddordeb mewn rhannu eich profiad i lunio ymchwil? Neu a ydych chi’n ymchwilydd sydd am gynnwys y cyhoedd yn eich gwaith?
Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych. Llenwch y ffurflen isod a byddwn yn cysylltu.