BACK

SHARE

Facebook LinkedIn Twitter

Cwrdd â’r ymchwilydd: Dr Cheney Drew

Amdanaf i

Fy enw i yw Dr Cheney Drew, ac rwy’n Gymrawd Ymchwil ac yn Uwch Reolwr Treialon Clinigol wedi’i leoli yn y Ganolfan Ymchwil Treialon ym Mhrifysgol Caerdydd.

Y tu allan i fy ngwaith ym Mhrifysgol Caerdydd, mae gen i lawer o ddiddordebau angerddol, o redeg marathon ultra i gelf a chrefft, yn ogystal â phobi cacennau. Ar un achlysur, fe wnes i bobi cacen ymennydd ar gyfer Calan Gaeaf a chefais wybod yn ddibynadwy gan gydweithwyr niwrolawfeddygol fod hon yn gynrychiolaeth ffyddlon, ac efallai’n ddychrynllyd o’r peth go iawn!

 

Fy ymchwil

Rwy’n ymwneud â dylunio a chyflwyno treialon clinigol o ansawdd uchel, gan ganolbwyntio ar anhwylderau niwroddirywiol ac anhwylderau niwrolegol eraill. Gall hyn gynnwys cyflwyno meddyginiaethau newydd, neu ffyrdd gwahanol o ddefnyddio meddyginiaethau sy’n bodoli eisoes i ‘ymyriadau’ nad ydynt yn seiliedig ar feddyginiaeth megis ymarfer corff i geisio brwydro yn erbyn afiechyd.

Rwyf hefyd yn hwyluso gwaith BRAIN Involve sef grŵp sy’n cynnwys y cyhoedd a chleifion i helpu i lywio ein gweithgareddau ymchwil.

Eleni, bûm yn gweithio gyda Dr Emma Lane i ddeall profiadau’r rhai sy’n cymryd rhan mewn treialon clinigol cymhleth ar gyfer cyflyrau dirywiol yr ymennydd, gan ganolbwyntio ar glefyd Parkinson.

 

Pam mae gen i ddiddordeb yn y maes ymchwil hwn

Mae dwy broblem fawr yr ydym yn dod ar eu traws wrth gynnal treial clinigol: perswadio pobl i gymryd rhan (recriwtio) a gwneud yn siŵr bod pobl yn parhau i gymryd rhan tan y diwedd (cadw).

Mae’r materion hyn yn ei gwneud hi’n anoddach i  ddod i gasgliadau pendant am y feddyginiaeth neu’r driniaeth sy’n cael ei phrofi oherwydd nad oes digon o ddata i ddangos bod y newidiadau i bobl sy’n cymryd rhan oherwydd y driniaeth ac nid oherwydd siawns.

Gobeithiwn, trwy ddeall profiad y cyfranogwr yn well, y gallwn ddylunio treialon clinigol sy’n ei gwneud hi’n haws ac yn fwy derbyniol i bobl gymryd rhan ynddynt ac aros, gan gynyddu recriwtio a chadw i’r eithaf a gwneud yn siŵr bod gan y treial clinigol y siawns orau o ddarparu ateb pendant am y driniaeth a astudir.

 

Ein canfyddiadau

Fe wnaethon ganfod fod cymryd rhan mewn treial clinigol yn dasg fawr i’r cyfranogwr, ei bartneriaid ac aelodau agos o’r teulu, er ei fod yn rhoi boddhad ar y cyfan.

Dywedodd y cyfranogwyr fod cyfathrebu parhaus rhyngddynt a’r tîm ymchwil yn hynod o bwysig, yn enwedig pan ddaeth y treial i ben iddynt ond nad yw’r canlyniadau ar gael am beth amser.

Hefyd, gall y newid o fod yn gyfranogwr yn ôl i fod yn glaf fod yn anodd iawn i’r cyfranogwr ac mae angen rheoli hynny’n ofalus, yn ogystal â rhoi tâl i gyfranogwyr am deithio a llety ymlaen llaw fel nad ydynt yn cael eu gadael ar eu colled.

Efallai eich bod yn meddwl nad yw rhai o’r ystyriaethau hyn yn synnu rhywun yn arbennig ac yn aml maent eisoes wedi’u cynnwys mewn cynlluniau treialon clinigol. Fodd bynnag, mae ein data wedi dangos y byddai newidiadau bach yn y ffordd y caiff hyn ei reoli (hy talu am y costau hynny ymlaen llaw a pheidio â mynnu bod y cyfranogwr yn gwneud cais am ad-daliad) yn gwneud y profiad yn llawer gwell i gyfranogwyr.

Dysgwch fwy am yr astudiaeth LEARN yma.

Fe wnaethom greu rhai fideos gwybodaeth byr a dogfennaeth ategol y gellir eu defnyddio i gefnogi pobl â chlefyd Parkinson i gymryd rhan mewn treialon clinigol, gan ddefnyddio’r data o’n hastudiaeth.