BACK
NEWS
Gweithio gyda ni: Cynorthwyydd Ymchwil mewn Niwro-oncoleg

SHARE

Facebook LinkedIn Twitter

Gweithio gyda ni: Cynorthwyydd Ymchwil mewn Niwro-oncoleg

Rydym yn chwilio am Gynorthwyydd Ymchwil i weithio mewn cydweithrediad cyffrous rhwng dwy ganolfan seilwaith a ariennir gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru: Canolfan Ymchwil Canser Cymru ac Uned BRAIN.

Swydd amser llawn am gyfnod penodol o un flwyddyn yw hon ac mae ar gael ar unwaith.

Bydd yn ofynnol i’r ymgeisydd llwyddiannus gyfrannu at ymchwil sy’n canolbwyntio ar gael a meithrin meinwe tiwmorau ar yr ymennydd, gan gefnogi ymchwil niwro-oncoleg grŵp cydweithredol, gan gynnwys yr Athro Gray (model meithrin 3D), Dr Siebzehnrubl (ymchwil meddygaeth bersonol mewn tiwmorau ar yr ymennydd) a’r Athro Parker (therapïau feirysol oncolytig) a’r Athro Baird (telomerau).

Dyddiad cau: Dydd Sul 20 Mehefin 2021

Cewch ragor o wybodaeth yma.

Tags: