Mae gweminar astudiaeth LEARN yn datgelu profiadau cyfranogwyr ar dreialon niwrolawfeddygol
Daeth cyfranogwyr, cyllidwyr a phrif ymchwilwyr ynghyd i drafod canfyddiadau allweddol astudiaeth ddiweddar gan Brifysgol Caerdydd, ac i gyflwyno adnoddau y gall pobl â chlefyd Parkinson a’u partneriaid cymorth eu defnyddio wrth ystyried cymryd rhan mewn ymchwil.
Mae astudiaeth LEARN yn sefyll am ‘gwrando ar brofiadau cyfranogwyr sy’n cymryd rhan mewn treialon niwrolawfeddygol’. Ceisiodd yr astudiaeth ddeall y profiadau a’r unrhyw rwystrau i gymryd rhan mewn treialon sy’n cynnwys niwrolawdriniaeth , i weinyddu therapïau ffarmacolegol ac uwch, yn ogystal â’r ddealltwriaeth o dreialon clinigol o fewn y boblogaeth Parkinson yn gyffredinol.
Cafodd ymchwilwyr y data hwn drwy gyfweliadau â chyfranogwyr y treial ac arolwg ychwanegol a gynhyrchwyd mewn cydweithrediad â Cure Parkinson’s UK. Cafodd cynnwys y cyfweliad ei lywio gan grŵp ymgynghori cyfranogwyr, grŵp cynghori moeseg a grŵp cynghori annibynnol a oedd yn cynnwys niwrolawfeddygon, ymchwilwyr, ac unigolion â phrofiad byw o glefyd Parkinson (PD).
O ddadansoddi trawsgrifiadau’r cyfweliadau, llwyddodd ymchwilwyr i nodi materion allweddol a oedd yn effeithio ar y profiad a phrofiad y cyfranogwr , a defnyddiwyd y rhain wedyn i greu adnoddau addysgiadol a allai helpu i wella’r profiad o gymryd rhan mewn treialon niwrolawfeddygol yn y dyfodol a lleihau rhai o’r problemau a allai beri i bobl roi’r gorau i ymchwil.
“Mae’r astudiaeth wedi tynnu sylw at lawer o faterion sydd angen eu datrys cyn cynllunio treialon niwrolawfeddygol pellach,” meddai Lesley Gosden, cyfranogwr yn astudiaeth LEARN.
Ymhlith y materion allweddol a nodwyd oedd heriau sy’n gysylltiedig â delweddu’r ymennydd, cymryd rhan mewn treialon clinigol pan nad oeddech chi’n cymryd meddyginiaeth a chefnogaeth i bartneriaid cymorth, ynghyd â’r angen i ddeall a chadw llawer o wybodaeth am y treial.
Roedd y Prif Ymchwilwyr, Dr Emma Lane a Dr Cheney Drew, yn falch o gyflwyno nifer o fideos gwybodaeth a chanllawiau ysgrifenedig ar bob un o’r meysydd hyn fel y gellir cefnogi a pharatoi cyfranogwyr a’u gofalwyr yn well mewn treialon yn y dyfodol.
Dywedodd y partner cymorth, Jayne Calder, “ Rwy’n credu bod astudiaeth LEARN wedi creu cyfle i wella taith cyfranogwr o’r dechrau i’r diwedd.”
Gwyliwch y weminar