23 June 2022
Mae Lauren Griffiths yn Dechnegydd Ymchwil ym Mhrifysgol Abertawe. Mae ei hymchwil diweddar wedi canolbwyntio ar golesterol, ei swyddogaeth yn yr ymennydd, a deall ei rôl mewn clefydau niwroddirywiol.
Mae colesterol yn foleciwl hanfodol yn y corff, ac yn enwedig yn yr ymennydd, lle mae’n lipid mwyaf cyffredin ac mae’n hanfodol ar gyfer pilenni celloedd, gan gynnwys y wain myelin (y sylwedd brasterog sy’n caniatáu i signalau nerf symud yn gyflym).
Mae synthesis a metaboledd colesterol yn cael eu rheoleiddio gan adweithiau ensymatig, ond beth sy’n digwydd pan fydd y broses hon yn mynd o chwith a sut mae’n effeithio ar swyddogaeth yr ymennydd?
Dyna oedd y cwestiwn roeddwn i eisiau ei ateb wrth ddechrau fy PhD bron i bedair blynedd yn ôl, lle, fel rhan o’r tîm a ddatblygodd dechneg delweddu newydd sydd, ynghyd â sbectrometreg màs, yn ein galluogi i fapio a mesur colesterol yn gywir ar draws adrannau meinwe ymennydd cyfan.
Y dull hwn o fapio a mesur colesterol yn yr ymennydd oedd y cyntaf o’i fath ac mae wedi dod ar adeg bwysig iawn lle mae diddordeb wedi troi at sut mae colesterol, a’i ddeilliadau, yn chwarae rolau pwysig mewn clefydau niwroddirywiol fel clefyd Alzheimer, clefyd Parkinson, a chlefyd Huntington.

Yn ddiweddar, rydym wedi cymhwyso ein dull o ddelweddu colesterol i feinwe sglerosis ymledol (MS) dynol ac wedi cydweithio â’r Grŵp Atgyweirio Ymennydd ym Mhrifysgol Caerdydd (yr Athro Anne Rosser a Dr Mariah Lelos) i ddadansoddi colesterol yn ymennydd clefyd Huntington (HD).
Y camau nesaf yn ein taith ymchwil gyda BRAIN yw dadansoddi’r rhagflaenwyr a’r deilliadau colesterol, yr ocsisterolau, gan ddefnyddio techneg sbectrometreg màs newydd arall. Mae ocsisterolau yn signalau pwysig i amddiffyn niwronau rhag marw a lleihau llid yr ymennydd.
Un ocssterol pwysig yr ydym yn canolbwyntio arno nawr yw 24S-hydroxycholesterol, sy’n gysylltiedig â cholli niwronau a phan gaiff ei synthesis ei hybu gall atal niwroddirywiad mewn modelau anifeiliaid.

Search for: