Amdanom ni
Cyllidir Cyweirio’r Ymennydd a Niwrotherapiwteg Mewngreuanol (BRAIN) gan Lywodraeth Cymru drwy seilwaith Ymchwil Gofal ac Iechyd Cymru, ac mae’n uned ymchwil sy’n datblygu therapiwteg a systemau cyflwyno triniaeth newydd ar gyfer cyflyrau niwrolegol.
Mae BRAIN yn gweithredu dan y cyfarwyddwr yr Athro William Gray gyda 31 o brif ymchwilwyr a chydweithwyr, a chyfanswm incwm grant o dros £34 miliwn ers ei sefydlu yn 2015.
Ein Cenhadaeth
Ein gweledigaeth yw y bydd uned Cyweirio’r Ymennydd a Niwrotherapiwteg Mewngreuanol (BRAIN) yn ganolfan rhagoriaeth genedlaethol i Gymru a’r DU ac ar y llwybr at fod yn arweinydd byd-eang ar gyfer:
- Cyflwyno therapïau celloedd/genynnau/moleciwlau bach a therapïau arloesol cymhleth eraill i’r ymennydd dynol.
- Cefnogi ymchwil drawsfudol sy’n sail ar gyfer addasu clefydau ac atgyweirio’r ymennydd mewn cleifion â chyflyrau niwrolegol.
Ein nodau ar gyfer y tair blynedd nesaf yw:
- Datblygu systemau newydd a mireinio’r rhai presennol ar gyfer cyflenwi therapiwteg i’r ymennydd dynol
- Datblygu seilwaith priodol ar gyfer:
- Datblygu adnoddau meinwe ymennydd oedolion a ffetysol, cefnogi ymchwil drawsfudol a dilysu therapïau ar draws clefydau niwrolegol
- Bio-fancio a rheoli bio-adnoddau’n defnyddio data clinigol cysylltiedig ac wedi’u ffenoteipio’n ddwys
- Cyfnerthu ac ehangu treialon clinigol priodol ac arbenigedd, gan gynnwys mireinio methodolegau priodol ar gyfer gwerthuso ymyriadau cymhleth newydd
- Gwreiddio rhagoriaeth drawsbynciol yn holl waith BRAIN, mewn perthynas â:
- Ymwneud ac Ymgysylltu â’r Cyhoedd a Chleifion
- Ymgysylltu a Chydweithio gyda Diwydiant a’r GIG
Rhagor o wybodaeth