BACK
NEWS
Cyfarfod cyntaf y grŵp ymchwil sy’n canolbwyntio ar elfennau niwro yn sbarduno cydweithrediadau newydd

SHARE

Facebook LinkedIn Twitter

Cyfarfod cyntaf y grŵp ymchwil sy’n canolbwyntio ar elfennau niwro yn sbarduno cydweithrediadau newydd

Cynhaliodd y Ganolfan Niwrotherapïau Datblygedig gyfarfod cyntaf y grŵp ymchwil amlddisgyblaethol niwrolegol y mis hwn yng Nghaerdydd.

Cynhaliwyd y cyfarfod cydweithredol ar 11 Gorffennaf ac fe’i cadeiriwyd gan gyfarwyddwr y Ganolfan Niwrotherapïau Datblygedig, yr Athro Liam Gray. Daeth y sesiwn â 37 o ymchwilwyr o bob cwr o’r gymuned ymchwil niwrolegol ynghyd am brynhawn o drafodaeth a rhwydweithio.

Roedd y sesiwn yn cynnwys 11 o gyflwyniadau cyflym yn ymdrin â phopeth o gyflenwi a datblygu cynnyrch meddyginiaethol therapi datblygedig (ATMP) i ddylunio treialon clinigol.

Dyma ddywedodd yr Athro Liam Gray: “Roedd yn wych croesawu cydweithwyr i’r ganolfan yma yng Nghaerdydd. Nod y cyfarfod oedd sbarduno syniadau ffres a meithrin partneriaethau newydd—ac mae eisoes yn gweithio, gyda sawl cydweithrediad cyffrous yn dechrau dod yn eu blaenau.

“Y math hwn o gydweithio trawsddisgyblaethol yw’r union beth yr oeddem yn gobeithio ei greu. Roedd yn wych gweld cymaint o ymchwilwyr yn dod at ei gilydd i rannu, cysylltu ac arloesi.”

Mae’r grŵp ymchwil amlddisgyblaethol sy’n canolbwyntio ar elfennau niwro yn rhan o gyfres ehangach o gyfarfodydd â thema, a drefnir gan Therapïau Datblygedig Cymru a gynlluniwyd i adeiladu pontydd ar draws meysydd ymchwil a chyflymu cynnydd mewn therapïau datblygedig.

Cynhelir sesiwn nesaf y grŵp ymchwil amlddisgyblaethol sy’n canolbwyntio ar elfennau niwro ddydd Gwener 14 Tachwedd 2025 ac mae croeso cynnes i unrhyw un sydd â diddordeb mewn ymchwil niwrolegol ymuno.

Am fwy o wybodaeth neu i gymryd rhan cysylltwch â antc@caerdydd.ac.uk