BACK

SHARE

Facebook LinkedIn Twitter

Treial newydd ar gyfer therapi genynnol maes dementia blaenarleisiol

Bydd treial clinigol ASPIRE-FTD yn ymchwilio i’r defnydd o therapi genynnol yn achos poblâ dementia blaenarleisiol.

Bydd treial clinigol newydd yng Nghaerdydd yn ymchwilio i’r defnydd o therapi genynnolunwaith ac am byth i atal y clefyd rhag datblygu mewn cleifion â dementia blaenarleisiol.

Mae treial clinigol Cam 1/2 ASPIRE-FTD yn recriwtio cleifion yn y DU i ymchwilio i’rdefnydd o AVB-101, sef therapi genynnol i bobl â dementia blaenarleisiol â mwtaniadaugenynnol progranulin (FTD-GRN).

Bydd y treial, dan ofal AviadoBio, yn recriwtio cleifion o bob rhan o Ewrop. Y GanolfanNiwrotherapïau Uwch ym Mhrifysgol Caerdydd a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Frofydd safle llawfeddygol y treial yn y DU, gan mai’r ganolfan yw’r unig le yn y DU a all ddosbarthu cyffuriau yn syth i’r ymennydd dynol gan ddefnyddio sganiwr MRI i drin cleifionyn fanwl gywir a gweld delweddau mewn amser real.

Dyma a ddywedodd yr Athro William Gray, Athro Niwrolawdriniaeth, ym MhrifysgolCaerdydd: “Therapi unwaith ac am byth yw’r therapi genynnol newydd hwn, AVB-101, ac mae ganddo’r potensial i atal datblygiad dementia blaenarleisiol. Er mwyn deall yn llawn eieffeithiau ar yr ymennydd, mae gofyn inni oresgyn rhai o’r rhwystrau a all atal cyffuriau rhagcyrraedd yr ymennydd ac mae gofyn inni hefyd fesur yn fanwl sut mae’n gweithio. Yn y Ganolfan Niwrotherapïau Uwch, gallwn ddosbarthu cyffuriau yn uniongyrchol i’r ymennydd, gan dargedu ardaloedd penodol. Ar ben hynny, gallwn wneud hynny mewn sganiwr MRI er mwyn gweld delwedd o’r broses a’i heffaith mewn amser real.”

Triniaeth unwaith ac am byth yw AVB-101 sy’n defnyddio gweithdrefn niwrolawfeddygolstereotactig leiaf mewnwthiol yn uniongyrchol i’r thalamws – ardal allweddol yn yr ymennydd yr effeithir arni gan ddementia blaenarleisiol.

Dyma a ddywedodd David Cooper, Prif Swyddog Meddygol AviadoBio: “Mae lansioASPIRE-FTD a thrin ein cleifion cyntaf gan ddefnyddio AVB-101 wedi bod yn gerrig milltirarwyddocaol yn yr ymchwil ar FTD-GRN a datblygu therapi genynnol.

“Datblygodd AviadoBio yn sgil ymchwil arloesol yng Ngholeg y Brenin Llundain a Sefydliad Ymchwil Dementia y DU. Mae agor ein safleoedd treialon clinigol yn y DU ynadlewyrchu’r dreftadaeth gref hon ym maes ymchwil, ac rydyn ni’n falch o ddod â’r treialclinigol hwn i’r DU er mwyn ei gwneud yn haws i bobl yng Nghymru sy’n byw gyda chyflwrblaenarleisiol teuluol ei ddefnyddio.”

Ychwanegodd yr Athro Gray: “Rydyn ni’n falch iawn o allu cyflwyno’r treial ASPIRE-FTD drwy lawdriniaeth yng Nghaerdydd, gan gynnig gobaith i gleifion sy’n byw gyda dementia blaenarleisiol yn y DU. Y Ganolfan Niwrotherapïau Uwch yw’r unig ganolfan yn y DU ac ynun o ond dwy ganolfan yn Ewrop sy’n gallu gwneud y math hwn o waith. Cam mawr ymlaenyw’r treial hwn yn y gwaith o chwilio am driniaeth ar gyfer dementia blaenarleisiol, ganarwain hwyrach at droi therapi newydd yn realiti i gleifion.”

Dywedodd Suzanne Rankin, Prif Swyddog Gweithredol Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydda’r Fro ac Uwch-swyddog Cyfrifol Rhaglen Therapïau Datblygedig Cymru: “Mae’n wych gweld y therapïau datblygedig hyn yn cael effaith gadarnhaol ar gleifion ledled Cymru. Rwy’n falch o weld Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro’n parhau i gyfrannu at yr ymchwil gyffrous hon. Mae’n wych gallu cefnogi gwaith mor arloesol, ac rwy’n ddiolchgari’n hymchwilwyr a’r tîm ehangach am eu gwaith caled a’u hymroddiad.”

Uned BRAIN Prifysgol Caerdydd oedd hen enw’r Ganolfan Niwrotherapiau Uwch, a ariennirgan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.

Tags: