BACK

SHARE

Facebook LinkedIn Twitter

Diwrnod Treialon Clinigol 2025: taith bersonol trwy dreial therapi uwch niwrosurgigol

Mae Diwrnod Treialon Clinigol (20 Mai) yn gyfle blynyddol i ystyried popeth sydd wedi’i gyflawni diolch i dreialon clinigol a’r bobl sy’n eu cynnal. Yn y blog hwn, mae Gareth wedi rhannu ei brofiad o gymryd rhan mewn treialtherapi uwch mewn niwrosuggegyn.

Stori Gareth

Helo, Gareth ydw i. Y llynedd, bu i mi gymryd rhan mewn treial clinigol niwrolawfeddygol yn profi therapi genynnau newydd ar gyfer clefyd Huntington (HD).

Roedd yn benderfyniad mawr; un a synnodd lawer o fy nheulu a’m ffrindiau; ond dwi’n falch fy mod i wedi mynd ati. I’r perwyl hwnnw, ro’n i eisiau rhannu ychydig ynghylch sut brofiad oedd y daith, pam y dewisais gymryd rhan a pham y bydden i’n gobeithio i bobl eraill ddewis therapïau datblygedig.

Cyn y treial

Cefais ganlyniadau prawf positif am HD ym mis Medi 2021. Doedd hyn ddim yn syndod mawr, gan i mi brofi llawer o aelodau’r teulu yn dioddef oherwydd y cyflwr ofnadwy hwn.

Yn fuan iawn wedi hynny, cefais wahoddiad i’r Clinig Huntington yng Nghaerdydd i gael sgwrs gyda’r Athro Anne Rosser. Cawsom sgwrs agored am HD a pha opsiynau oedd ar gael, er bod rheiny’n brin.

Ro’n i’n falch o weld yr holl wybodaeth, doeddwn i heb sylwi faint o ymchwil oedd yn digwydd y tu ôl i’r llenni.

Penderfynais fy mod eisiau helpu mewn unrhyw ffordd bosibl, a gadawais y clinig gyda llawer mwy o obaith na phan gyrhaeddais i.

Penderfynu cymryd rhan

Yn y pen draw, roedd y penderfyniad i gymryd rhan yn eithaf syml. Er hyn, roedd y wybodaeth gefndirol a gefais drwy’r cyfarfodydd gyda’r Athro Rosser yn help, yn ogystal â chyswllt gyda’r Bwrdd Ymgynghori HD, yr ydw i’n aelod balch ohono.

Er bod y cymhelliad cychwynnol yn bersonol, cyn bo hir, dysgais am y dylanwad y gallai Therapïau Uwch ei gael ar lawer o fywydau.

Gwnaeth yr ymgynghoriadau canlynol gyda’r Athro Gray a’i dîm gadarnhau f’ymrwymiad i gymryd rhan.

Ro’n i’n gwerthfawrogi pa mor onest yr oedd pawb, a’r parch oedd yno, ac ro’n i’n teimlo lefel uchel o ymddiriedaeth ar unwaith. Roedd y cysylltiad hwn yn hanfodol i mi, a helpodd fi i leddfu unrhyw amheuon yn fy meddwl.

Y profiad treial clinigol

Nid yw ymrwymo i dreial yn ymwneud â’r llawdriniaeth yn unig… dysgais hynny’n weddol gyflym yn dilyn sawl sgan, archwiliad, prawf gwaed ac ati. Mae pob rhan o’r broses yn hanfodol, ac ro’n i’n gallu teimlo’r ymrwymiad pob aelod unigol o’r tîm i’r prosiect.

Er nad oedd y staff ysbyty ynghlwm yn uniongyrchol, roedden nhw hefyd yn dangos diddordeb a brwdfrydedd at y driniaeth arloesol hon. Tawelodd hyn fy meddwl ar unwaith; dydw i’m yn hoff iawn o ysbytai!

Er nad ydw i’n cofio’r llawdriniaeth, dwi’n cofio deffro yn teimlo rhyddhad. Cefais fy synnu ynghylch pa mor dda roeddwn i’n teimlo.

Dechreuodd yr ôl-ofal ar unwaith ac roedd yn fanwl. Ro’n i’n teimlo’n gyfforddus ac fel fy mod yn derbyn gofal da.

Myfyrdodau

O gymryd rhan yn y treial, dwi’n teimlo’n fwy gobeithiol a dwi’n falch fy mod wedi cymryd rhan.

Hyd yn oed os nad yw wedi gwneud gwahaniaeth i mi yn bersonol, roedd gwybod fy mod wedi cyfrannu at rywbeth a allai helpu pobl eraill yn werth chweil.

Bydden i’n annog unrhyw un sy’n cael cyfle i fod yn rhan o ymchwil i ddysgu mwy am y cyfle beth bynnag.

Pe bydden i’n cael cais i gymryd rhan eto, fydden i’m yn meddwl dwywaith.

Diolch i Gareth am rannu ei stori gyda ni.