6 October 2026
Ddydd Iau 10 Medi, bu’r Ganolfan Niwrotherapïau Datblygiedig yn bresennol yn nigwyddiad haf Canolfan Clefyd Huntington yng Nghymru yn adeilad sbarc | spark Prifysgol Caerdydd.
Roedd y digwyddiad yn arddangos yr ymchwil ar glefyd Huntington (HD) sy’n digwydd ledled Cymru ac yn tynnu sylw at lwybrau newydd o ran ymchwil ac arloesi o fewn y maes astudio. Cymerodd y mynychwyr ran mewn trafodaethau bywiog ac eiddgar am bynciau’r cyflwyniadau, a oedd yn cynnwys defnydd o ddeallusrwydd artiffisial (AI) mewn ymyriadau drwmo rhythmig, metaboledd colesterol mewn HD, a datblygiadau mewn therapïau bôn-gelloedd newydd.
Rhoddodd yr Athro Anne Rosser, dirprwy gyfarwyddwr y Ganolfan Niwrotherapïau Datblygiedig, drosolwg o’r therapïau sy’n cael eu datblygu i drin clefyd Huntington.
Ffocws mawr oedd treial UniQure AMT-130, a ddisgrifiwyd gan yr Athro Rosser fel un o’r enghreifftiau cyfredol cryfaf sy’n cefnogi potensial therapïau sy’n gostwng Huntington. Mae angen niwrolawdriniaeth i gyflwyno’r driniaeth, gyda’r therapi yn cael ei roi yn uniongyrchol i’r ymennydd o dan arweiniad MRI. Cyfarwyddwr y Ganolfan Niwrotherapïau Datblygiedig, yr Athro Liam Gray, a wnaeth y llawdriniaethau ar gyfer y treial hwn yng Nghaerdydd.
Roedd y canfyddiadau cychwynnol yn awgrymu bod y cyfranogwyr a oedd yn cael AMT-130 wedi profi dirywiad clinigol arafach na grwpiau cymharu cyfatebol, gwell cadwraeth o alluoedd gweithredol, dirywiad arafach mewn perfformiad gwybyddol a gwaethygu arafach o ran symptomau echddygol.
Er bod yr astudiaeth yn parhau ac yn cynnwys niferoedd cymharol fach o gyfranogwyr, dywedodd yr Athro Rosser,
“Mae’r canlyniadau’n arwydd cryf y gallai therapïau sy’n gostwng Huntington fod yn gallu arafu dilyniant y clefyd.”
Siaradodd Dr Jane Davies, Uwch Nyrs Ymchwil Therapïau Datblygiedig, ag Ian, sy’n cymryd rhan ar hyn o bryd mewn treial clinigol ar gyfer clefyd Huntington.
Rhannodd Ian ei brofiad mewn cyfweliad manwl a theimladwy. Mae’r treial y mae Ian yn cymryd rhan ynddo yn gofyn am weithdrefnau sgrinio helaeth, gan gynnwys sganiau MRI a nifer o brofion gwaed. Ers ymuno â’r treial, mae Ian wedi cael apwyntiadau rheolaidd a nifer o dyllau meingyfol, ac ar ôl yr un olaf ni allai weithredu’n nornal am sawl diwrnod.
Er gwaethaf yr heriau, mae Ian yn bositif. Dywedodd Ian:
“Rwyf wedi cael cefnogaeth a gofal rhagorol gan y tîm ymchwil, ac rwy’n ystyried fy nghyfranogiad fel braint ac fel ffynhonnell gobaith.”
Mae Ian yn teimlo’n ffodus o gael mynediad at gyfle triniaeth posibl.
Rhoddodd yr adroddiad hwn bersbectif gwerthfawr i’r mynychwyr o safbwynt claf ar fyw gyda chlefyd Huntington a chymryd rhan mewn ymchwil.
Cryfhawyd pwysigrwydd cyfranogiad cleifion gan gyflwyniad Dr Cheney Drew ar wella rhoddion ymennydd ar ôl marwolaeth (bancio ymennydd) ar gyfer clefyd Huntington a’r ymgais i ddangos gwerth y rhodd honno i bobl.
Esboniodd Dr Drew fod llawer o’r ddealltwriaeth bresennol o batholeg HD wedi dod o astudio meinwe ymennydd dynol ar ôl marwolaeth. Fodd bynnag, mae’r casgliadau presennol yn pwyso’n drwm tuag at gamau diweddarach, gan gyfyngu ar ymchwil i ddechrau’r clefyd.
Mae menter Ewropeaidd newydd, EHDN Early Brain Banking TF, bellach yn ceisio mynd i’r afael â hyn trwy gydlynu adnoddau banciau ymennydd yn well ac ymgysylltu’n helaeth â’r gymuned HD i sicrhau bod rhaglenni rhoi ymennydd yn y dyfodol yn foesegol, yn ymarferol, ac yn canolbwyntio ar anghenion cleifion.
Dywedodd Dr Drew:
‘Mae ymwybyddiaeth y cyhoedd, agweddau tuag at roi, a’r wybodaeth a’r gefnogaeth sydd eu hangen i gyd yn ffactorau a fydd yn cael eu hystyried o fewn y fenter hon.’
Nid yn unig y roedd y diwrnod yn gyfle i gyflwyno’r diweddaraf mewn ymchwil HD, ond hefyd i fyfyrio ar y daith y mae ymchwilwyr, cleifion a theuluoedd wedi bod arni ers i’r mwtaniad genetig sy’n gyfrifol am HD gael ei ddarganfod ym 1993.
Fel rhan o’r tîm ymchwil a wnaeth y darganfyddiad hwn, mae’r prif siaradwr yr Athro Gillian Bates, Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol (RSF), yn un o’r ymchwilwyr mwyaf dylanwadol mewn ymchwil clefyd Huntington.
Yn ei chyflwyniad, myfyriodd ar y datblygiadau a gyflawnwyd yn y maes a thrafododd waith arloesol sydd â’r nod o ostwng lefelau protein huntingtin, dull sy’n addo llawer ar gyfer triniaethau yn y dyfodol ac ar gyfer y cleifion a’r teuluoedd y mae’n effeithio arnynt.
Roedd y Ganolfan Niwrotherapïau Datblygiedig yn falch o fod yn bresennol ac o gyflwyno ymchwil y ganolfan, yn ogystal â thynnu sylw at y pwysigrwydd o roi anghenion a phrofiadau cleifion yn flaenllaw yn ein hymchwil.
Darllenwch fwy am Dr Cheney Drew yma
Darllenwch stori Gareth, cyfranogwr mewn treial clinigol ar gyfer clefyd Huntington
Search for: