Ymunwch â ni i ddathlu cyfranogiad cleifion a’r cyhoedd mewn ymchwil

Bydd Uned BRAIN a’r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl (NCMH) yn cyd-gynnal digwyddiad ddydd Sadwrn 20 Ebrill i ddathlu’r rôl y mae grwpiau cynnwys cleifion a’r cyhoedd yn ei chwarae mewn ymchwil.

Bydd y digwyddiad yn dod â grwpiau cynnwys y cyhoedd a chleifion, ymchwilwyr a’r cyhoedd yn gyffredinol ynghyd sy’n rhannu un achos cyffredin: cydweithio er mwyn gwell iechyd yr ymennydd.

Mae grwpiau cynnwys cleifion a’r cyhoedd (PPI) yn bartneriaeth hanfodol rhwng aelodau’r cyhoedd ac ymchwilwyr i wneud ymchwil yn fwy perthnasol, dibynadwy a mwy tebygol o gael ei rhoi ar waith yn ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.

Bydd y digwyddiad hwn yn caniatáu i’r mynychwyr ddweud eu dweud ar yr hyn y mae cynnwys y cyhoedd yn ei olygu iddyn nhw, clywed straeon personol gan aelodau grŵp BRAIN ac NCMH PPI, a chymryd rhan mewn gweithgareddau rhyngweithiol sy’n gysylltiedig â’r ymennydd a thrafodaethau panel. Rydym hefyd yn cynnig teithiau o amgylch labordai ymchwil (rhaid archebu).

Mae hwn yn ddigwyddiad am ddim ac rydym yn croesawu unrhyw un sydd â diddordeb mewn ymchwil i’r ymennydd a PPI i ymuno â ni.

Dysgwch fwy a chofrestrwch eich lle heddiw.

X

Search for: