Mae Dr Zita Fülöp yn ymchwilydd ôl-ddoethurol sydd wedi ymuno â thîm y Ganolfan Niwrotherapïau Datblygiedig (ANTC) yn ddiweddar.

Yn y cyfweliad hwn, mae’n trafod ei rôl yn y Ganolfan, ei hangerdd dros ei maes ymchwil, a’i gobeithion ar gyfer dyfodol y maes hwnnw.

Amdana i

Mewn mathemateg ac ystadegaeth mae fy nghefndir. Astudiais fy ngradd meistr integredig ym Mhrifysgol Glasgow lle canolbwyntiodd fy mhrosiect ar electro-gemotherapi, gan wella’r broses o’i gludo i diwmorau drwy ddefnyddio maes trydan. Drwy gydol fy PhD mewn mathemateg gymhwysol, canolbwyntiais ar glioblastoma, tiwmorau’r ymennydd. Yn gynnar yn y PhD, dechreuais garu MRI a byd clinigwyr, felly dechreuais chwilio am waith ar y cyd ag ysbytai. Gwnes i interniaeth mewn ysbyty yn yr Iseldiroedd, yn gweithio yn yr adran radiotherapi.

Mae fy nau ddiddordeb, mathemateg a gwaith clinigol sy’n canolbwyntio ar y claf, yn rhoi cymysgedd diddorol o sgiliau i mi sy’n eithaf unigryw.

 

Fy rôl yn ANTC

Pan fydd therapïau’n cael eu trwytho i’r ymennydd ar gyfer Clefyd Huntington, caiff ei wneud mewn sganiwr MRI. Mae hyn yn caniatáu i’r therapi gael ei gyflwyno’n gywir, ond nid yw’n dangos y microstrwythur, yr holl gelloedd na’r pibellau gwaed bach sydd yn yr ymennydd, sydd hefyd yn effeithio ar ble mae’r cyffuriau therapiwtig yn lledaenu.

Fy rôl i fydd datblygu modelau mathemategol sy’n cysylltu’r strwythurau microsgopig hyn yn yr ymennydd â’r hyn y gellir ei weld ar sganiau MRI, gan helpu ymchwilwyr i ddeall a rhagweld yn well sut mae triniaethau’n lledaenu drwy’r ymennydd.

I ddechrau, rwy’n dysgu mwy am y batholeg, y driniaeth a ffiseg MRI. Mae’r arbenigedd hwn yn wahanol iawn i diwmorau, gwahanol rannau o’r ymennydd, gwahanol fathau o ddulliau triniaeth. Dw i’n meddwl ei bod hi’n bwysig dysgu cymaint â phosibl am gyd-destun y driniaeth ac yna modelu’n greadigol gan ymgorffori’r holl wybodaeth.

 

Beth sy’n fy nghyffroi fwyaf am y rôl hon?

Mae llawer o fathemategwyr yn creu hafaliadau hardd, cain, ond dydyn nhw byth yn eu defnyddio. Dydyn nhw byth yn eu cymhwyso. Mae’n anodd iawn creu model a’i ddilysu, i ddangos bod eich model mathemategol wedi rhagweld ymddygiad system fiolegol yn gywir.

Rwy’n edrych ymlaen at ymgymryd â’r rôl hon oherwydd y bydd gwneud y model hwn a’i ddilysu yn gwella’r ddarpariaeth therapiwtig a fydd yn gwella bywydau cleifion. Byddwn ni wir yn gweld yr effaith.

 

Beth sy’n heriol i mi?

Mae hi’n ddyddiau cynnar o hyd, ond roedd y newid i amgylchedd ymchwil cwbl newydd yn heriol i ddechrau. Mae clefydau niwroddirywiol yn ymddwyn yn wahanol iawn i ganser ac felly rwyf nawr yn dysgu am faes hollol newydd. Mae meithrin gwybodaeth a hyder mewn disgyblaeth wahanol yn heriol, ond mae hefyd yn gyffrous.

Beth arall ddylech chi ei wybod amdanaf i?

Rwyf hefyd yn artist ac rwyf wedi cynnal mwy na 10 arddangosfa unigol. I mi, mae mathemateg a phaentio yn teimlo’n rhyfeddol o debyg. Mae’r ddau yn hynod greadigol ac yn gofyn i chi gamu’n ôl, edrych ar y darlun ehangach, adnabod patrymau a dod o hyd i gysylltiadau nad ydyn nhw efallai’n amlwg ar y dechrau. Dydych chi ddim bob amser yn gwybod sut y bydd darlun yn datblygu na sut i symud ymlaen gyda model mathemategol. Mae yna lawer o ansicrwydd, greddf a dysgu i ymddiried ynoch chi’ch hun a’r broses.

Byddwn i wrth fy modd pe bai mwy o bobl yn sylweddoli nad yw rhifau, rheolau a hafaliadau yn unig yw mathemateg. Gall fod yn hynod greadigol, greddfol a hardd.

 

X

Search for: