Ymweliad AS Cynllun Paru’r Gymdeithas Frenhinol

Profodd yr AS Kevin Brennan ddiwrnod ym mywyd ymchwilydd o Brifysgol Caerdydd, fel rhan o gynllun paru’r Gymdeithas Frenhinol ar gyfer gwyddonwyr ac ASau.

Ddydd Gwener 3 Mai, treuliodd Kevin Brennan, AS Gorllewin Caerdydd, y diwrnod gyda Dr Emma Yhnell a’i chydweithwyr ymchwil yn y Sefydliad Ymchwil Niwrowyddoniaeth ac Iechyd Meddwl (NMHRI) a Chanolfan Delweddu’r Ymennydd Prifysgol Caerdydd (CUBRIC). Ymweliad cilyddol oedd hwn a drefnwyd drwy Gynllun Paru’r Gymdeithas Frenhinol sy’n ceisio meithrin cysylltiadau rhwng seneddwyr a rhai o’r gwyddonwyr gorau sy’n gweithio yn y DU. Mae’r cynllun yn rhoi cyfle i lunwyr polisi ac ymchwilwyr ddysgu am gyfrifoldebau ei gilydd, gan sefydlu cyfle i drosglwyddo gwybodaeth, a chreu cydlyniant rhwng bydoedd gwleidyddiaeth, polisi a gwyddoniaeth.

Ar y diwrnod, cyfarfu Kevin ag Emma a thrafod ei hymchwil i glefyd Huntington yn fanwl, yn ogystal â chael ei wahodd ar daith unigryw o amgylch cyfleusterau ymchwil. Roedd y diwrnod yn cynnwys taith o amgylch labordy NMHRI yn Adeilad Hadyn Ellis gyda rheolwr y labordy Emma Dalton a chyfle i weld rhai diwylliannau celloedd gyda’r myfyriwr PhD Bret Saunders. Ar ôl y daith o amgylch y labordy, cyflwynodd Emma Brennan i’w chydweithiwr Mark Postans yn CUBRIC, canolfan delweddu’r ymennydd flaenllaw yn y byd, lle cafodd sgan MRI. Yn dilyn y daith o amgylch y cyfleusterau, cynigiodd Emma gyfle i Kevin roi cynnig ar rai o’r profion gwybyddol y mae’n eu gwneud fel rhan o’i hymchwil.

Dyfyniad kevin “Roedd yn bleser mawr croesawu Emma i Dŷ’r Cyffredin a gweld ei hymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae hi’n gyfathrebwr gwyddoniaeth gwych a dysgais lawer i’m helpu fel lluniwr polisi.”

Daeth yr ymweliad yn dilyn Emma yn treulio wythnos yn San Steffan ym mis Tachwedd y llynedd yn cysgodi Kevin.

Dywedodd Emma “Roedd yn anrhydedd cymryd rhan yng Nghynllun Paru’r Gymdeithas Frenhinol, byddwn yn argymell y cyfle hwn yn fawr i eraill. Cynyddodd fy wythnos yn San Steffan fy ngwerthfawrogiad a’m dealltwriaeth o’r cyfraniad y gall gwyddonwyr ei wneud at lunio polisïau. Rwy’n ddiolchgar iawn i’r Gymdeithas Frenhinol am greu’r cyfle hwn. Rwy’n gobeithio bod ymweliad cilyddol Kevin wedi rhoi cipolwg da ar y lle ymchwil blaenllaw yn y byd ym Mhrifysgol Caerdydd ac yn enwedig yn y Sefydliad Ymchwil Niwrowyddoniaeth ac Iechyd Meddwl. Fe wnaeth y cynllun hefyd fy helpu i dynnu sylw at bwysigrwydd cyfathrebu gwyddoniaeth a ffyrdd newydd y gall gwyddoniaeth a pholisi ryngweithio.”

X

Search for: