19 November 2018
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ffurfio cydweithrediad darganfod cyffuriau gyda Takeda Pharmaceutical Company Limited (Takeda) i nodi dulliau newydd ar gyfer trin sgitsoffrenia ac anhwylderau seiciatrig eraill.
Bydd y cydweithrediad yn cyfuno data genomig ar raddfa fawr y Brifysgol, ac arbenigedd o’r radd flaenaf mewn geneteg seiciatrig, genomig a niwrowyddoniaeth, â galluoedd helaeth Takeda i ddarganfod cyffuriau a datblygu clinigol.
“Mae datblygiadau diweddar mewn geneteg a genomeg seiciatrig, ynghyd â chynnydd mewn niwrowyddoniaeth, yn golygu bod gobaith gwirioneddol bellach o oresgyn y rhwystrau sydd wedi dal cynnydd yn ôl wrth ddatblygu cyffuriau newydd ar gyfer anhwylderau seiciatrig,” meddai’r Athro Lawrence Wilkinson, Cyfarwyddwr Gwyddonol y Sefydliad Ymchwil Niwrowyddoniaeth ac Iechyd Meddwl (NMHRI) a fydd yn cyd-arwain y bartneriaeth yng Nghaerdydd.
“Bydd arbenigedd Takeda mewn darganfod cyffuriau yn llwyddiannus yn galluogi ein huchelgais i ddefnyddio ein hymchwil i ddod o hyd i driniaethau gwell ar gyfer anhwylderau cyffredin yr ymennydd lle mae lefelau uchel o angen heb ei ddiwallu.”
Dywedodd yr Athro Jeremy Hall, Cyfarwyddwr y Sefydliad Ymchwil Niwrowyddoniaeth ac Iechyd Meddwl a chyd-arweinydd:
“Rydym wedi ymrwymo i drosi ein hymchwil sylfaenol a chlinigol yn driniaethau mwy diogel a mwy effeithiol i gleifion.”
Bydd y cydweithrediad yn caniatáu i Takeda gael mynediad at ymchwil seiciatreg fiolegol o safon fyd-eang a’r isadeiledd cysylltiedig ar draws y Brifysgol, gan gynnwys Canolfan MRC ar gyfer Geneteg a Genomeg Niwroseiciatrig, NMHRI, y Ganolfan Genedlaethol Iechyd Meddwl, a’r Uned Atgyweirio’r Ymennydd a Niwrotherapiwtig Mewngreuanol.
“Trwy weithio mewn partneriaeth ag arbenigwyr niwroseiciatrig gwyddonol a chlinigol o safon fyd-eang ym Mhrifysgol Caerdydd, mae gennym gyfle unigryw i greu ton newydd o feddyginiaethau, sydd wedi’u seilio ar ddealltwriaeth genomig o’r clefyd, ar gyfer cleifion sy’n dioddef o sgitsoffrenia ac anhwylderau seiciatrig cysylltiedig,” meddai Ceri Davies, Pennaeth yr Uned Darganfod Cyffuriau Niwrowyddoniaeth yn Takeda.
Mae prif anhwylderau seiciatrig, gan gynnwys iselder, sgitsoffrenia, awtistiaeth ac anhwylder deubegwn, gyda’i gilydd yn cynrychioli angen iechyd enfawr heb ei ddiwallu, gan gyfrif am oddeutu 20% o’r holl flynyddoedd a gollir i anabledd yn fyd-eang, yn ôl Sefydliad Iechyd y Byd.
Dywedodd yr Athro Syr Michael Owen, Cyfarwyddwr Canolfan y Cyngor Ymchwil Feddygol ar gyfer Geneteg a Genomeg Niwroseiciatrig:
“Mae cynnydd therapiwtig ar gyfer y cyflyrau hyn wedi’i gyfyngu gan ddiffyg dealltwriaeth o’u prif achosion, fodd bynnag mae datblygiadau genetig mawr yn y degawd diwethaf, y mae llawer ohonynt wedi’u harwain gan Brifysgol Caerdydd, wedi rhoi cipolwg newydd a dibynadwy ar eu hachosrwydd biolegol. Gyda’n partner Takeda mae gennym gyfle digynsail i ddatblygu dulliau therapiwtig newydd ar gyfer anhwylderau niwroseiciatrig.”
Search for: