Cwpan TRIDENT yn ennill prif wobr BRAIN yn y gynhadledd am y drydedd flwyddyn yn olynol

Cafodd gweithgaredd ymgysylltu Cwpan TRIDENT ei ddangos am y tro cyntaf yng Nghynhadledd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru (HCRW), yn Stadiwm Criced SWALEC Caerdydd, ar 25 Hydref ac aeth ymlaen i ennill gwobr y Stondin Ryngweithiol Orau.

Mae’r llwyddiant yn nodi’r drydedd flwyddyn yn olynol i Uned BRAIN ennill y wobr hon am eu mentrau ymgysylltu, yn dilyn Operation Brain a’r prosiect celf ‘Splodge on the Brain’ a dderbyniodd y nifer fwyaf o bleidleisiau gan gynrychiolwyr yn y ddau ddigwyddiad blaenorol.

Cwpan TRIDENT

Gêm a ail-bwrpaswyd o Golff Mini Celloedd Bonyn y fyfyrwraig PhD Zoe Noakes oedd Cwpan TRIDENT, yn dilyn rhediad hynod lwyddiannus yng Nghanolfan MRC ar gyfer Geneteg a Genomeg Niwroseiciatrig (MRC CNGG) yng Nghaerdydd. Wedi’i ysbrydoli gan dreial TRIDENT , bwriad y gêm oedd symboleiddio rhwystrau a wynebir er mwyn cwblhau treialon clinigol a’r heriau ymarferol o gyrraedd rhannau penodol o’r ymennydd i drin cyflyrau niwrolegol.

Gyda’r bêl golff yn symboleiddio celloedd ffetws, y nod oedd tywys y bêl, gan lywio trwy’r rhwystrau ar y cwrs er mwyn cyrraedd y striatwm. Roedd pob rhwystr yn symboleiddio gwahanol heriau o fewn y treial megis cymeradwyaeth foesegol, rheoleiddio, ac argaeledd a chymhwysedd cyfranogwyr. Pe bai’r bêl yn rholio oddi ar y cwrs byddai’r treial yn methu.

Gwahoddwyd y cyfranogwyr i chwarae gêm o golff a cheisio cael twll mewn un, gan oresgyn rhwystrau i gael y bêl i’r striatwm ar y diwedd, gan gofnodi faint o ergydion a gymerodd i suddo’r bêl i’r twll.

Roedd gan y gystadleuaeth lif cyson o gyfranogwyr chwilfrydig a chystadleuol, gan ddenu gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, academyddion a chynrychiolwyr lleyg o bob cwr o Gymru, gyda chwaraewyr yn ymarfer eu siglenni gorau er mwyn ennill y prif wobrau.

Lansio Cwpan TRIDENT am y tro cyntaf gyda thwll mewn un

Gwobr y stondin ryngweithiol orau

“Rydym yn hynod o falch o fod wedi gallu ennill y wobr hon i’r Uned BRAIN am y drydedd tro,” meddai Rheolwr yr Uned BRAIN, Dr Cassy Ashman.

“Roedd y gynhadledd yn gyfle gwych i gael y cynrychiolwyr i feddwl am bwysigrwydd cynnwys y cyhoedd mewn ymchwil, boed ar lefel treialon clinigol neu wrth lunio grantiau ymchwil yn y ffordd y mae Astrid Burrell, aelod o BRAIN Involve a chyd-ymgeisydd treial TRIDENT, a oedd hefyd yn bresennol ar y diwrnod, wedi’i wneud. Ein nod yw pwysleisio pwysigrwydd ymchwil wrth ddod o hyd i therapïau mwy effeithiol ar gyfer clefyd Huntington a’r cyflyrau eraill rydyn ni’n eu cynnwys.”

Mae Cymrawd Ymchwil Clinigol Uned BRAIN, Dr Feras Sharouf, yn gweithio ar Dreial TRIDENT ac yn egluro

“Mae treial TRIDENT yn edrych ar ddiogelwch trawsblannu celloedd yr ymennydd i striatwm pobl â Chlefyd Huntington. Credir, mewn therapi posibl yn y dyfodol, y gallai celloedd ‘iach’ ddisodli’r rhai sydd ar goll yn y rhanbarth hwn o’r ymennydd. Roedd yn wych helpu Cassy a’r tîm i ddatblygu’r gweithgaredd ymgysylltu cyhoeddus hwn, gan fod cefnogaeth y cyhoedd yn allweddol mewn treialon clinigol fel hyn.”

Mae Dr Cassy Ashman yn ychwanegu,

“Roedd yn wirioneddol werthfawr gweld ein gêm yn denu pobl yn y gynhadledd i ddysgu mwy am TRIDENT; Hoffwn ddiolch i’n swyddog cyfathrebu Camila Araya-Larrain, ac aelodau tîm TRIDENT Dr Feras Sharouf a Dr Cheney Drew am eu holl gymorth i ddatblygu’r gweithgaredd. Gobeithio y gallwn gyflawni eto yng nghynhadledd y flwyddyn nesaf ac arddangos mwy o’r ymchwil gyffrous rydyn ni’n ei wneud yn Uned BRAIN!”

Dysgwch fwy am yr Uned BRAIN yma: https://brainwalesprd.wpengine.com/
X

Search for: