Mae’r ‘niwromat’ robotig cyntaf yng Nghymru yn cynorthwyo llawdriniaeth epilepsi

Mae Athro Niwrolawdriniaeth Swyddogaethol Uned BRAIN, yr Athro William Gray, wedi llwyddo i gyflawni’r driniaeth epilepsi gyntaf â chymorth robot yng Nghymru.

Mae Prifysgol Caerdydd yn dathlu’r weithdrefn stereoelectroenceffalograffeg (SEEG) nodedig, a gynhaliwyd yn Ysbyty Prifysgol Cymru ac mae’n gyntaf o’i bath i gael ei chynnal gyda chymorth robotig yng Nghymru.

Cynorthwyodd y robot ‘niwromat’, a enwyd gan y crewyr Renishaw, cwmni peirianneg a thechnoleg wyddonol blaenllaw yn y byd, yr Athro Gray yn ystod y llawdriniaeth tra roedd yn defnyddio electrodau mewngyhyrol i fesur signalau trydanol yn yr ymennydd.

Cafodd y claf Denise Casey, o Gastell-nedd Port Talbot, ddiagnosis o epilepsi ysgwydd pan oedd hi’n 31 oed, gan ddioddef hyd at chwe ffit bob dydd am yr 20 mlynedd diwethaf.

Gyda’r fraich robotig, cymerodd 55 munud i’r Athro Gray nodi a gweithredu’n gywir ar y parth epileptogenig mewn gweithdrefn a fyddai fel arfer yn cymryd pedair awr. Perfformiwyd llawdriniaeth ddilynol wythnos yn ddiweddarach yn y gobaith o leddfu symptomau epileptig Denise.

“Mae Robot Renishaw yn gam sylweddol ymlaen ar gyfer llawdriniaeth epilepsi yng Nghymru,” meddai’r Athro Gray.

“Bydd yn ein galluogi i ymchwilio i’r achosion mwyaf cymhleth a’u trin er mwyn sicrhau bod ein cleifion yn rhydd o drawiadau. Mewn cydweithrediad ag Uned BRAIN, bydd hefyd yn ein galluogi i gynnal ymchwil arloesol ar gyfer mesur signalau’r ymennydd a chyflwyno therapïau yn uniongyrchol i’r ymennydd, ar draws nifer o glefydau niwrolegol.”

Roedd y driniaeth nodedig hon yn cyd-fynd â BioWales, cynhadledd flynyddol Caerdydd sy’n dathlu safle Cymru fel arloeswr byd-eang yn y sector gwyddorau bywyd. Dywedodd Andrea Richards, Rheolwr Cyfarwyddiaeth ar gyfer Niwrowyddorau ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro:

“Rydym yn falch bod y cydweithrediad hwn wedi galluogi nifer o welliannau i ofal cleifion.

“Bydd cleifion niwrolawfeddygol nawr yn treulio llai o amser yn y theatr lawdriniaethau, bydd ganddynt lai o risg o haint a byddant yn elwa ar ganlyniadau llawfeddygol gwell.”

Ychwanegodd Dr Abed Hammoud, Prif Weithredwr Renishaw Mayfield SA yn y Swistir:

“Rydym yn falch iawn o glywed bod ein harbenigedd mewn technoleg a pheirianneg wedi cyfrannu at ganlyniad cadarnhaol yn Ysbyty Athrofaol Cymru, ac rydym yn edrych ymlaen at weithio’n agos gyda’r adran niwrowyddoniaeth i sicrhau’r canlyniadau gorau posibl i gleifion yng Nghymru.”

Nid yw Denise wedi cael unrhyw drawiadau ers ei llawdriniaethau ym mis Mawrth, ac fe ymddangosodd hyd yn oed ochr yn ochr â’r Proff. Gray ar deledu BBC Wales i drafod ei phrofiad. Gwyliwch y cyfweliad yma: http://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-39513139

X

Search for: