Yn y Ganolfan Niwrotherapïau Uwch, rydym yn cydnabod y gwerth y gall cynnwys llais y claf ei ddwyn i ddatblygiad triniaethau newydd. Rydym yn ymdrechu i gynnwys cyfranogiad y cyhoedd a gwerthuso profiad cyfranogwyr ar draws ein holl waith gyda phartneriaid diwydiant a phrifysgol.
Mae hyn yn sicrhau ein bod yn gweithio’n gyson tuag at ddiwallu anghenion yr holl randdeiliad gan barhau i ymateb i faes datblygu cynhyrchion meddyginiaethol therapiwtig uwch sy’n newid yn gyflym.
Mae ein protocolau cyhoeddedig a’n hymchwil sy’n canolbwyntio ar gleifion yn gwella sut mae treialon clinigol yn cael eu cynllunio a’u cynnal ar gyfer gwerthuso therapïau uwch.
Mae’r gwaith hwn bellach yn cael ei rannu â grwpiau ymchwil cenedlaethol a rhyngwladol fel gweithgor ATMP PPIE GIG Lloegr (ATM Engage), EuroGCT, SC4HD, CPath a G-Force PD, yn ogystal ag elusennau fel Parkinson’s UK, Cure Parkinson’s a Chymdeithas Clefyd Huntington, a’i fabwysiadu ganddynt, gan ganiatáu lledaeniad a dylanwad cyflym.
Dysgwch fwy am sut y gallwch ddefnyddio eich profiad i lunio ymchwil drwy ymuno â’n grŵp cynnwys y cyhoedd.
Search for: