6 October 2017
Mae meddyg niwrowyddorau sydd wedi’i leoli yn yr Uned Atgyweirio’r Ymennydd a Niwrotherapiwteg Mewngreuanol (BRAIN) wedi ennill Cystadleuaeth Niwroanatomeg Ôl-raddedig Cymdeithas Anatomegol Genedlaethol 2017.
Dyfarnwyd y wobr gyntaf i Ronak Ved, Meddyg Niwrowyddorau yng Nghyfarwyddiaeth Niwrowyddorau Caerdydd a’r Fro yn Ysbyty Prifysgol Cymru, ar ôl cystadlu yn y digwyddiad ledled y DU a gynhaliwyd yn Ysbyty Prifysgol Southampton.
Yn y gystadleuaeth, gwelwyd meddygon yn cynrychioli adrannau niwrowyddoniaeth o bob cwr o’r wlad yn cystadlu ar draws tri arholiad. Cymerodd y cyfranogwyr asesiad niwroddelweddu, her yn cynnwys sbesimenau ymennydd wedi’u dyrannu ac arholiad ysgrifenedig clinigol.
Fel yr unig gystadleuydd a oedd yn cynrychioli Ysbyty yng Nghymru, gwnaeth Ronak y rhanbarth yn falch a hawliodd y wobr uchaf ar ôl sicrhau’r sgôr uchaf ym mhob cydran o’r gystadleuaeth.
“Mae’n fraint wirioneddol cael fy nghydnabod am yr anrhydedd genedlaethol hon,” meddai Ronak, y mae ei rôl yn cael ei hariannu gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.
“Yn fy swydd i, mae’n hanfodol integreiddio gwybodaeth niwrowyddoniaeth â gofal clinigol effeithiol er mwyn darparu triniaeth o ansawdd uchel a meithrin hyder yn ein cleifion.
“Rhoddodd y gystadleuaeth hon yr holl sgiliau hyn ar brawf, ac rwyf wrth fy modd yn helpu i roi sylw i Uned BRAIN fel canolfan ragoriaeth mewn niwrolawdriniaeth a datblygiad niwrotherapiwtig, ar lefel leol a chenedlaethol.”
Dywedodd Jessica Castle, Cyfarwyddwr Gweithrediadau’r Bwrdd Clinigol Gwasanaethau Arbenigol: “Roedden ni’n falch iawn o glywed bod Ronak wedi ennill y digwyddiad cenedlaethol hwn a hoffem ni i gyd ei longyfarch ar y cyflawniad gwych hwn.
“Mae’n aelod uchel ei barch a gwerthfawr o dîm y Niwrowyddorau sydd wedi gweithio i’r adran ers peth amser ac sydd newydd ymgymryd â swydd Cymrawd Addysgu Niwroleg gyda ni.”
Am ragor o wybodaeth am yr NRU a’r Uned (BRAIN) , sydd wedi’i lleoli ym Mhrifysgol Caerdydd, ewch i: https://brainwalesprd.wpengine.com/neuroscience-research-unit/
Search for: