Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn cyhoeddi buddsoddiad mawr o £49m mewn seilwaith ymchwil

Mae Uned BRAIN, a fydd yn dod yn Ganolfan Niwrotherapïau Uwch o fis Ebrill 2025, yn falch o gadarnhau y bydd yn derbyn £2,856,309 o gyllid cynaliadwyedd mewn cyhoeddiad pwysig gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yr wythnos hon.

Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru wedi cyhoeddi cyllid Seilwaith Datblygu Ymchwil ar gyfer 17 o ganolfannau ymchwil ledled Cymru, gan gynnwys pum sefydliad newydd.

Mae’r cyllid wedi’i ddyfarnu ar draws dau gategori – gwobrau cynaliadwyedd, ar gyfer grwpiau sy’n cael eu hariannu ar hyn o bryd i gynnal modelau ymarfer effeithiol a chefnogi llwybr tuag at hunangynhaliaeth, a gwobrau catalytig, i hybu capasiti a gallu mewn meysydd o angen iechyd a gofal a chryfder ymchwil sy’n dod i’r amlwg yng Nghymru.

Dywedodd yr Athro Liam Gray, cyfarwyddwr Uned BRAIN: “Rydym wrth ein bodd yn adeiladu ar gyflawniadau’r 10 mlynedd diwethaf fel Uned BRAIN, gan atgyfnerthu ac ehangu ein safle fel y ganolfan flaenllaw yn y DU ar gyfer darparu therapïau uwch yn uniongyrchol i’r ymennydd dynol.

“O fis Ebrill ymlaen, byddwn yn dod yn Ganolfan Niwrotherapïau Uwch, gan barhau i ddatblygu a darparu triniaethau arloesol er budd cleifion sy’n byw gyda chlefydau niwrolegol a niwroddirywiol. Diolch i Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru am eu cefnogaeth barhaus.”

Dyma’r rhestr lawn o ganolfannau a fydd yn derbyn cyllid:

Cyllid cynaliadwyedd

  • Canolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl (£2,999,894)
  • Canolfan Ymchwil Canser Cymru (£4,866,172)
  • Banc Data Cysylltu Gwybodaeth Ddienw Diogel (SAIL) (£4,551,338)
  • Canolfan Ymchwil Gofal Sylfaenol ac Argyfwng Cymru (£2,996,483)
  • Biofanc Canser Cymru (£2,363,320)
  • Economeg Iechyd a Gofal Cymru (£1,865,815)
  • Partneriaeth Canolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol Plant (Partneriaeth CASCADE) (£2,999,636)
  • Canolfan ar gyfer Datblygu a Gwerthuso Ymyriadau Cymhleth ar gyfer Gwella Iechyd y Cyhoedd (DECIPHer) (£2,886,936)
  • Uned Ymchwil Arennau Cymru (£2,984,527)
  • Canolfan Ymchwil Treialon (£4,742, 424)
  • Rhwydwaith Ymchwil Cardiofasgwlaidd Cenedlaethol (£2,073,161)

Cyllid catalytig

  • Uned Firoleg Gymhwysol Cymru (£3,000,000)
  • Canolfan Genedlaethol ar gyfer Atal Hunanladdiad a Hunan-niwed (£2,085,939)
  • Canolfan ar gyfer Dysgu Gofal Cymdeithasol a Deallusrwydd Artiffisial (£1,815,416)
  • Ymchwil Iechyd Menywod Cymru (£3,013,936)
  • Canolfan Ymchwil Gwasanaethau Golwg (£1,746,729)

Dywedodd Jeremy Miles, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol: “Mae gan ymchwil rôl hanfodol i’w chwarae wrth ein helpu i gyflawni ein nod o Gymru Iachach. Mae hwn yn fuddsoddiad pwysig mewn meysydd ymchwil newydd a chyffrous, gan gynnwys iechyd menywod; atal hunanladdiad a hunan-niweidio a deallusrwydd artiffisial – rwy’n gobeithio y bydd yn darparu tystiolaeth wirioneddol dros y pum mlynedd nesaf, a fydd yn helpu i lunio gwasanaethau a gofal i bobl ledled Cymru.”

Dywedodd Michael Bowdery, Cyfarwyddwr Dros Dro ar y Cyd yn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a Phennaeth Rhaglenni, Adran Ymchwil a Datblygu yn Llywodraeth Cymru: “Mae’r cyhoeddiad hwn yn cynrychioli buddsoddiad sylweddol yn ein seilwaith a ariennir yng Nghymru dros y pum mlynedd nesaf, ac mae’n adlewyrchu ein huchelgais i ddatblygu gallu ymchwil sy’n cyd-fynd ag anghenion iechyd a chymdeithasol heb eu diwallu mewn meysydd polisi allweddol.

“Mae ein dull o ddarparu’r cyllid hwn yn seiliedig ar ddau faen prawf – yn gyntaf, lle mae angen ymchwil a thystiolaeth glir a chymhellol yn y maes ar gyfer Llywodraeth Cymru, y GIG a’r system gofal cymdeithasol yng Nghymru; ac yn ail, lle mae capasiti a gallu ymchwil cryf neu sy’n dod i’r amlwg yn y maes.

“Mae’r canolfannau hyn yn ymgorffori’r egwyddor bod gan ymchwil y pŵer i wneud gwahaniaeth i iechyd a lles pobl, ac rydym yn falch o allu cefnogi eu gweithgaredd yn y maes hwn.”

Am ragor o wybodaeth ewch i: www.ymchwiliechydgofalcymru.org

X

Search for: