27 January 2025
Mae Uned BRAIN, a fydd yn dod yn Ganolfan Niwrotherapïau Uwch o fis Ebrill 2025, yn falch o gadarnhau y bydd yn derbyn £2,856,309 o gyllid cynaliadwyedd mewn cyhoeddiad pwysig gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yr wythnos hon.
Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru wedi cyhoeddi cyllid Seilwaith Datblygu Ymchwil ar gyfer 17 o ganolfannau ymchwil ledled Cymru, gan gynnwys pum sefydliad newydd.
Mae’r cyllid wedi’i ddyfarnu ar draws dau gategori – gwobrau cynaliadwyedd, ar gyfer grwpiau sy’n cael eu hariannu ar hyn o bryd i gynnal modelau ymarfer effeithiol a chefnogi llwybr tuag at hunangynhaliaeth, a gwobrau catalytig, i hybu capasiti a gallu mewn meysydd o angen iechyd a gofal a chryfder ymchwil sy’n dod i’r amlwg yng Nghymru.
Dywedodd yr Athro Liam Gray, cyfarwyddwr Uned BRAIN: “Rydym wrth ein bodd yn adeiladu ar gyflawniadau’r 10 mlynedd diwethaf fel Uned BRAIN, gan atgyfnerthu ac ehangu ein safle fel y ganolfan flaenllaw yn y DU ar gyfer darparu therapïau uwch yn uniongyrchol i’r ymennydd dynol.
“O fis Ebrill ymlaen, byddwn yn dod yn Ganolfan Niwrotherapïau Uwch, gan barhau i ddatblygu a darparu triniaethau arloesol er budd cleifion sy’n byw gyda chlefydau niwrolegol a niwroddirywiol. Diolch i Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru am eu cefnogaeth barhaus.”
Dyma’r rhestr lawn o ganolfannau a fydd yn derbyn cyllid:
Cyllid cynaliadwyedd
Cyllid catalytig
Dywedodd Jeremy Miles, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol: “Mae gan ymchwil rôl hanfodol i’w chwarae wrth ein helpu i gyflawni ein nod o Gymru Iachach. Mae hwn yn fuddsoddiad pwysig mewn meysydd ymchwil newydd a chyffrous, gan gynnwys iechyd menywod; atal hunanladdiad a hunan-niweidio a deallusrwydd artiffisial – rwy’n gobeithio y bydd yn darparu tystiolaeth wirioneddol dros y pum mlynedd nesaf, a fydd yn helpu i lunio gwasanaethau a gofal i bobl ledled Cymru.”
Dywedodd Michael Bowdery, Cyfarwyddwr Dros Dro ar y Cyd yn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a Phennaeth Rhaglenni, Adran Ymchwil a Datblygu yn Llywodraeth Cymru: “Mae’r cyhoeddiad hwn yn cynrychioli buddsoddiad sylweddol yn ein seilwaith a ariennir yng Nghymru dros y pum mlynedd nesaf, ac mae’n adlewyrchu ein huchelgais i ddatblygu gallu ymchwil sy’n cyd-fynd ag anghenion iechyd a chymdeithasol heb eu diwallu mewn meysydd polisi allweddol.
“Mae ein dull o ddarparu’r cyllid hwn yn seiliedig ar ddau faen prawf – yn gyntaf, lle mae angen ymchwil a thystiolaeth glir a chymhellol yn y maes ar gyfer Llywodraeth Cymru, y GIG a’r system gofal cymdeithasol yng Nghymru; ac yn ail, lle mae capasiti a gallu ymchwil cryf neu sy’n dod i’r amlwg yn y maes.
“Mae’r canolfannau hyn yn ymgorffori’r egwyddor bod gan ymchwil y pŵer i wneud gwahaniaeth i iechyd a lles pobl, ac rydym yn falch o allu cefnogi eu gweithgaredd yn y maes hwn.”
Am ragor o wybodaeth ewch i: www.ymchwiliechydgofalcymru.org
Search for: