Nod y digwyddiad, o’r enw ‘Ymchwil Niwrowyddoniaeth ac Iechyd Meddwl: Goleuni ar Gymru’, oedd pwysleisio pwysigrwydd ymchwil niwrowyddonol i fynd i’r afael â heriau iechyd yng Nghymru i lunwyr polisi.
Daeth gweinidogion y llywodraeth, cyllidwyr ac ymchwilwyr eraill o bob cwr o Gymru ynghyd i glywed am amrywiaeth o ymchwil niwrowyddonol, gan gynnwys ymchwil Uned BRAIN sy’n datblygu ac yn darparu therapïau uwch ar gyfer clefydau niwroddirywiol fel clefyd Huntington, sy’n effeithio ar tua 7000 o bobl yn y DU. Ar hyn o bryd, mae Uned BRAIN yn un o bum canolfan yn unig ledled y byd sy’n darparu therapi genynnau UniQure AMT-130 a allai newid y gêm ar gyfer pobl â Chlefyd Huntington.
Dywedodd yr Athro Gray, “Rydym mewn cyfnod allweddol a chyffrous ym maes ymchwil niwrowyddoniaeth, gyda Therapïau Celloedd a Genynnau Uwch yn cynnig addewid sylweddol ar gyfer addasu clefydau mewn cyflyrau niwrolegol na ellid eu trin hyd yn hyn. Rydym yn un o’r ychydig ganolfannau yn y byd sy’n cynnal y treialon clinigol cynnar hyn, gan ddarparu’r dystiolaeth sydd ei hangen ar gyfer eu cyfieithu i ofal clinigol.”
Gan edrych i’r dyfodol, cyhoeddodd yr Athro Gray fod gan Uned BRAIN gynlluniau i ail-frandio ym mis Ebrill 2025. Bydd yr uned yn cael ei hadnabod fel y Ganolfan Niwrotherapïau Uwch a bydd yn parhau i weithio tuag at fod yn Ganolfan Ragoriaeth ar gyfer datblygu a chyflwyno therapïau uwch gyda threialon wedi’u cynllunio ar gyfer dementia a Chlefyd Parkinson.
Dysgwch fwy am ddyfodol Uned BRAIN yn ein hadroddiad blynyddol.
Search for: