Mae Dr Chloe Ormonde yn dechnegydd labordy yn Uned BRAIN. Yn y darn hwn, mae Chloe yn rhannu ei thaith gyrfa hyd yn hyn a pham ei bod hi’n mwynhau gweithio yn y labordy.

Amdanaf i

Chloe ydw i, ac rydw i wedi gweithio i’r brifysgol ers dros 16 mlynedd. Astudiais ym Mhrifysgol Caerdydd fy hun, gan gwblhau gradd BSc mewn Ffarmacoleg a PhD mewn gwyddorau cardiofasgwlaidd. Ymunais â grŵp labordy’r Athro William Gray ac Uned BRAIN ar ddiwedd 2016. Pan nad ydw i yn y labordy, rwy’n fam brysur i ddau o blant, mab sy’n bump oed a merch sydd newydd droi’n 16 mis oed. Fel arfer, rwy’n treulio fy amser y tu allan i’r gwaith yn archwilio’r gwahanol feysydd chwarae o amgylch Caerdydd, yn adeiladu LEGO ac yn ymarfer ‘geiriau cyntaf’ gyda fy merch. Rwy’n gogydd brwd, ac rwy’n mwynhau arbrofi a rhoi cynnig ar ryseitiau newydd gyda fy nheulu.

Fy rôl yn yr Uned BRAIN

Mae gan dechnegydd labordy gyfrifoldeb am oruchwylio’r holl weithgareddau sy’n digwydd o fewn y tîm ymchwil. Ar ddiwrnod nodweddiadol, rydym yn cynorthwyo i baratoi ar gyfer casglu, a phrosesu meinwe ddynol gynradd, a geir gan gleifion sydd wedi cydsynio sy’n cael niwrolawdriniaeth ddewisol yn Ysbyty Prifysgol Cymru (UHW), Caerdydd. O dan Ddeddf Meinweoedd Dynol, rydym yn gyfrifol am gadw golwg ar yr holl weithgareddau meinweoedd dynol sy’n digwydd o fewn ein tîm ymchwil, a chadw rhestrau wedi’u diweddaru’n rheolaidd.

Rydym hefyd yn darparu cymorth technegol i’n grŵp ymchwil ac yn gyfrifol am dasgau fel archebu a gwirio stoc, cynhyrchu protocolau, llunio asesiadau risg a gweithdrefnau gweithredu safonol, yn ogystal â darparu cymorth labordy trwy hyfforddi aelodau newydd o staff a myfyrwyr i weithio’n ddiogel yn y labordy a sicrhau’r defnydd cywir o offer labordy.

Pam mae technegwyr labordy mor bwysig?

Mae rôl y technegydd yn rhan annatod o’r tîm ymchwil. Mae’n bwysig oherwydd ein bod yn darparu cymorth ymarferol a thechnegol i’r holl staff a myfyrwyr sy’n gweithio yn y labordy. Rydym yn darparu amrywiaeth o dechnegau labordy hanfodol, arferol i gefnogi unrhyw brosiectau ymchwil wyddonol parhaus ac yn ymwneud â derbyn, labelu a dadansoddi samplau. Rydym yn gyfrifol am sicrhau bod y labordy yn parhau i fod yn lle hawdd ei ddefnyddio, trwy gadw meinciau’r labordy yn lân ac yn rhydd o annibendod, cael gwared ar sbwriel a chadw golwg ar nwyddau traul labordy fel adweithyddion a phlastig.

Yr hyn rwy’n ei garu am fod yn dechnegydd labordy

Rydw i bob amser wedi mwynhau astudiaethau diwylliant meinwe ac fe wnaeth y ffaith bod yr Uned BRAIN yn gweithio’n uniongyrchol gyda meinwe ddynol a gesglir yn syth o lawdriniaeth ennyn fy niddordeb yn y rôl hon. Roeddwn i’n chwilfrydig i weld sut y gellid cynhyrchu cynrychiolaeth 3D o feinwe ymennydd normal a heintiedig yn y labordy. Roedd gen i ddiddordeb hefyd yn y posibilrwydd cyffrous o ddefnyddio’r meinwe hon nid yn unig i ymchwilio’n agosach i’r prosesau cymhleth sy’n sail i glefyd niwrolegol, ond hefyd fel model i ragweld effeithiolrwydd clinigol triniaethau cyffuriau. Mae’r prosesau hyn yn ein helpu i nodi ymwrthedd, gwenwyndra, a chynorthwyo strategaethau therapiwtig.

Gyda diolch i Chloe am ei chyfraniadau.

X

Search for: