Roedd yr Uned BRAIN wrth eu bodd yn cefnogi lansiad Canolfan Clefyd Huntington newydd yng Nghymru a gynhaliwyd yn Adeilad Hadyn Ellis Prifysgol Caerdydd ddydd Mercher 8 Mawrth, 2024.
Mae Clefyd Huntington (HD) yn glefyd niwroddirywiol etifeddol sy’n achosi colli celloedd yr ymennydd, gan effeithio ar feddwl, symudiad, ymddygiad ac iechyd meddwl.
Yn ystod croeso cynnes i’r digwyddiad lansio, eglurodd yr Athro Anne Rosser fod lansio Canolfan Clefyd Huntington yng Nghymru yn nodi cyfnod newydd ar gyfer ymchwil i HD. Y nod yw dod ag ymchwilwyr ar draws nifer o ddisgyblaethau, sefydliadau a sectorau ledled Cymru ynghyd ar gyfer cydweithio ac i hyrwyddo ymchwil sy’n arwain y byd i HD.
Mae ehangder a dyfnder yr arbenigedd lleol mewn ymchwil i HD, o ddealltwriaeth sylfaenol o fioleg clefydau i brofion clinigol ar therapïau newydd, yn gyfle gwych i gyflawni’r nod terfynol o ddod o hyd i driniaethau a all arafu neu atal dilyniant HD. Mae’r ganolfan hefyd yn cydnabod pwysigrwydd parhau i ddarparu cefnogaeth i bobl a theuluoedd sy’n byw gyda HD. Felly, mae ymchwil i leihau effaith HD ar deuluoedd, gan weithio ochr yn ochr â sefydliadau allweddol sy’n canolbwyntio ar gleifion, hefyd yn thema allweddol yn y ganolfan.
Bydd y ganolfan yn parhau i weithio ochr yn ochr â’i chydweithwyr o fewn Prifysgol Caerdydd, sy’n cynnwys yr Uned BRAIN, Sefydliad Cenedlaethol Arloesi Niwrowyddoniaeth ac Iechyd Meddwl (NMHII), y Ganolfan ar gyfer Geneteg a Genomeg Niwroseiciatrig (CNGG) a chanolfan Ymchwil Delweddu’r Ymennydd Prifysgol Caerdydd (CUBRIC).
Mae Uned BRAIN yn edrych ymlaen at adeiladu ar y sylfaen ragoriaeth bresennol mewn HD trwy weithgarwch cydweithredol.
Search for: