5 January 2021
Mae Dr Cynthia Sandor, sy’n cael ei chefnogi gan raglen Ser Cymru II a ariennir yn rhannol gan Brifysgol Caerdydd a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru, Kathryn Peall a’r Athro Caleb Webber wedi derbyn cyllid yn ddiweddar gan wobrau Ysgoloriaeth PhD Iechyd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru i ymchwilio i rôl llid yng nghlefyd Parkinson, fel rhan o’r Sefydliad Ymchwil Dementia ac Uned BRAIN ym Mhrifysgol Caerdydd.
Clefyd Parkinson yw’r anhwylder symud niwroddirywiol mwyaf cyffredin, ac amcangyfrifir ei fod yn effeithio ar ~8000 o bobl yng Nghymru. Fodd bynnag, gwelir cryn amrywiaeth ffenoteipig, o ran cyflwyniad a datblygiad symptomau, mewn ymarfer clinigol.
Er mwyn deall y gwahaniaethau hyn yn well, mae Dr Sandor wedi datblygu model cyfrifiadurol sy’n caniatáu integreiddio gwybodaeth enetig a chlinigol, ac o’r model hwn mae hi wedi nodi is-grwpiau symptomau sy’n adlewyrchu’r rhai a welir mewn ymarfer clinigol. Fel rhan o’r gwaith hwn, roedd y cleifion hynny â risg enetig fwy o glefyd Alzheimer yn tueddu i ddatblygu ffurf fwy difrifol o glefyd Parkinson, yn ogystal â dangos dilyniant cyflymach yn eu symptomau dros amser.
Mae ymchwil i glefyd Alzheimer wedi tynnu sylw at gyfraniad posibl nifer o gydrannau’r system niwrollidiol ym mecanwaith y clefyd. Hyd yn hyn, nid yw rôl y cydrannau imiwnedd hyn wedi’i hymchwilio yng nghlefyd Parkinson, yn enwedig sut y gallent gyfrannu at y gwahanol symptomau a lefelau difrifoldeb y clefyd.
Mae’r prosiect hwn yn bwriadu defnyddio gwybodaeth glinigol a genetig hynod fanwl sydd eisoes wedi’i chasglu, gan gynnwys Menter Marcwyr Dilyniant Clefyd Parkinson (PPMI) a ariannwyd gan Michael J Fox, a Phartneriaeth Cyflymu Meddyginiaethau (AMP)-PD. Bydd cohortau yn y DU – cohort Olrhain y DU a chohort Darganfod y DU – hefyd yn cael eu defnyddio i ddatblygu dulliau dysgu peirianyddol a allai alluogi adnabod cleifion â mathau mwy difrifol o glefyd Parkinson yn gynharach, gyda hyn â’r potensial i gynllunio gofal clinigol yn well.
Dywedodd Dr Cynthia Sandor “Ein nod yw cyflymu ein dealltwriaeth o sut mae clefyd Parkinson yn amrywio ar draws cleifion unigol ac i nodi biomarcwyr sy’n seiliedig ar y gwaed a fydd o gymorth i ragfynegi cwrs y clefyd, a chynorthwyo cynllunio gofal. Mae dealltwriaeth o’r system imiwnedd, sut mae’r corff yn ymateb i’r clefyd, yn amlwg yn bwysig ar gyfer clefyd Parkinson. Mae’r ymchwil hon yn cynnig mewnwelediadau moleciwlaidd a allai arwain datblygiad therapïau sy’n gallu newid dilyniant ac amlygiad clefyd Parkinson unigolyn. Mae therapïau addasu clefydau yn cael eu treialu’n glinigol yn haws na therapïau ataliol ar gyfer clefydau niwroddirywiol ac felly maent yn fwy tebygol o gael effaith gyflymach ar gleifion a’u teuluoedd.”
Mae hyn yn gyfle PhD cyffrous, gan ddefnyddio dulliau cyfrifiadurol arloesol. Mae hefyd yn cynrychioli partneriaeth waith newydd rhwng timau biowybodeg (Dr Sandor a’r Athro Webber) a thimau clinigol (Dr Peall), gyda’r nod o sicrhau bod data genetig newydd yn cael ei gymhwyso’n uniongyrchol berthnasol i ymarfer clinigol.
Search for: