Gwyddonydd rhyngwladol o Brifysgol Caerdydd yn ymweld â gwleidyddion yn San Steffan

Bydd Dr Emma Yhnell o Brifysgol Caerdydd yn cyfnewid cot labordy am ddeddfwriaeth pan fydd hi’n ymweld â’r AS Kevin Brennan yn Nhŷ’r Cyffredin am wythnos yn San Steffan. Mae'r wythnos (26 – 30 Tachwedd) yn rhan o gynllun paru unigryw a gynhelir gan y Gymdeithas Frenhinol – academi wyddoniaeth genedlaethol y DU, gyda chefnogaeth gan y proffesiwn Gwyddoniaeth a Pheirianneg y Llywodraeth (GSE) .

Yn ystod ei hymweliad bydd Emma yn cysgodi Kevin ac yn dysgu am ei waith. Yn ogystal â mynychu seminarau a thrafodaethau panel ynglŷn â sut mae tystiolaeth yn cael ei defnyddio wrth lunio polisïau, bydd Emma hefyd yn mynychu Pwyllgor Dethol ffug yn ogystal â Chwestiynau i Brif Weinidogion. Bydd yr ymweliad yn rhoi cipolwg y tu ôl i’r llenni i Emma ar sut mae polisi’n cael ei lunio a sut y gellir defnyddio ei hymchwil i wneud penderfyniadau sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Bydd hefyd yn rhoi cyfle i Kevin ymchwilio i’r wyddoniaeth y tu ôl i’w benderfyniadau a gwella eu mynediad at dystiolaeth wyddonol.

Dywedodd Emma ‘Rwyf wrth fy modd yn cymryd rhan yng Nghynllun Paru’r Gymdeithas Frenhinol. Bydd yn gyfle pwysig a gwerthfawr i dynnu sylw at faterion gwyddonol pwysig yn y maes gwleidyddol. Mae meysydd allweddol yr hoffwn eu trafod yn cynnwys; sut mae cyffuriau newydd ar gyfer clefydau niwroddirywiol yn cael eu cymeradwyo i’w trin, diffyg sefydlogrwydd swyddi o fewn ymchwil academaidd a materion sy’n ymwneud â chyllido ymchwil, ymgysylltu, arloesi ac addysg.

Nod cynllun paru’r Gymdeithas Frenhinol, a ddechreuodd yn 2001, yw adeiladu pontydd rhwng seneddwyr, gweision sifil a rhai o’r gwyddonwyr gorau yn y DU.

Bydd Kevin Brennan AS yn cael profiad ymarferol o ymchwil wyddonol a gweithgareddau allgymorth ac ymgysylltu Emma pan fydd yn gwisgo cot labordy i ymweld ag Emma yn Sefydliad Ymchwil Niwrowyddoniaeth ac Iechyd Meddwl (NMHRI) ym Mhrifysgol Caerdydd y flwyddyn nesaf.

Mae cynllun paru’r Gymdeithas Frenhinol yn ei 18fed flwyddyn. Erbyn diwedd cynllun eleni, bydd 456 o Wyddonwyr wedi cymryd rhan, gan gysgodi cymysgedd o ASau, Arglwyddi, Gweision Sifil a Staff Pwyllgorau Dethol. Dyna ddigon o Wyddonwyr i lenwi’r meinciau Gwyrdd yn Nhŷ’r Cyffredin, a gadael 28 yn sefyll o hyd. Mae gwleidyddion blaenorol sydd wedi cymryd rhan yn cynnwys Michael Gove, Ysgrifennydd Defra, Nick Clegg, cyn Ddirprwy Brif Weinidog, AS Chi Onwurah, Gweinidog Cysgodol dros Strategaeth Ddiwydiannol, Caroline Lucas, Cyd-arweinydd y Blaid Werdd.

X

Search for: