Bydd Dr Emma Yhnell o Brifysgol Caerdydd yn cyfnewid cot labordy am ddeddfwriaeth pan fydd hi’n ymweld â’r AS Kevin Brennan yn Nhŷ’r Cyffredin am wythnos yn San Steffan. Mae'r wythnos (26 – 30 Tachwedd) yn rhan o gynllun paru unigryw a gynhelir gan y Gymdeithas Frenhinol – academi wyddoniaeth genedlaethol y DU, gyda chefnogaeth gan y proffesiwn Gwyddoniaeth a Pheirianneg y Llywodraeth (GSE) .

Yn ystod ei hymweliad bydd Emma yn cysgodi Kevin ac yn dysgu am ei waith. Yn ogystal â mynychu seminarau a thrafodaethau panel ynglŷn â sut mae tystiolaeth yn cael ei defnyddio wrth lunio polisïau, bydd Emma hefyd yn mynychu Pwyllgor Dethol ffug yn ogystal â Chwestiynau i Brif Weinidogion. Bydd yr ymweliad yn rhoi cipolwg y tu ôl i’r llenni i Emma ar sut mae polisi’n cael ei lunio a sut y gellir defnyddio ei hymchwil i wneud penderfyniadau sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Bydd hefyd yn rhoi cyfle i Kevin ymchwilio i’r wyddoniaeth y tu ôl i’w benderfyniadau a gwella eu mynediad at dystiolaeth wyddonol.

Dywedodd Emma ‘Rwyf wrth fy modd yn cymryd rhan yng Nghynllun Paru’r Gymdeithas Frenhinol. Bydd yn gyfle pwysig a gwerthfawr i dynnu sylw at faterion gwyddonol pwysig yn y maes gwleidyddol. Mae meysydd allweddol yr hoffwn eu trafod yn cynnwys; sut mae cyffuriau newydd ar gyfer clefydau niwroddirywiol yn cael eu cymeradwyo i’w trin, diffyg sefydlogrwydd swyddi o fewn ymchwil academaidd a materion sy’n ymwneud â chyllido ymchwil, ymgysylltu, arloesi ac addysg.

Nod cynllun paru’r Gymdeithas Frenhinol, a ddechreuodd yn 2001, yw adeiladu pontydd rhwng seneddwyr, gweision sifil a rhai o’r gwyddonwyr gorau yn y DU.

Bydd Kevin Brennan AS yn cael profiad ymarferol o ymchwil wyddonol a gweithgareddau allgymorth ac ymgysylltu Emma pan fydd yn gwisgo cot labordy i ymweld ag Emma yn Sefydliad Ymchwil Niwrowyddoniaeth ac Iechyd Meddwl (NMHRI) ym Mhrifysgol Caerdydd y flwyddyn nesaf.

Mae cynllun paru’r Gymdeithas Frenhinol yn ei 18fed flwyddyn. Erbyn diwedd cynllun eleni, bydd 456 o Wyddonwyr wedi cymryd rhan, gan gysgodi cymysgedd o ASau, Arglwyddi, Gweision Sifil a Staff Pwyllgorau Dethol. Dyna ddigon o Wyddonwyr i lenwi’r meinciau Gwyrdd yn Nhŷ’r Cyffredin, a gadael 28 yn sefyll o hyd. Mae gwleidyddion blaenorol sydd wedi cymryd rhan yn cynnwys Michael Gove, Ysgrifennydd Defra, Nick Clegg, cyn Ddirprwy Brif Weinidog, AS Chi Onwurah, Gweinidog Cysgodol dros Strategaeth Ddiwydiannol, Caroline Lucas, Cyd-arweinydd y Blaid Werdd.

Mae Prifysgol Caerdydd wedi ffurfio cydweithrediad darganfod cyffuriau gyda Takeda Pharmaceutical Company Limited (Takeda) i nodi dulliau newydd ar gyfer trin sgitsoffrenia ac anhwylderau seiciatrig eraill.

Bydd y cydweithrediad yn cyfuno data genomig ar raddfa fawr y Brifysgol, ac arbenigedd o’r radd flaenaf mewn geneteg seiciatrig, genomig a niwrowyddoniaeth, â galluoedd helaeth Takeda i ddarganfod cyffuriau a datblygu clinigol.

“Mae datblygiadau diweddar mewn geneteg a genomeg seiciatrig, ynghyd â datblygiadau mewn niwrowyddoniaeth, yn golygu bod posibilrwydd gwirioneddol bellach o oresgyn y rhwystrau sydd wedi llesteirio cynnydd wrth ddatblygu cyffuriau newydd ar gyfer anhwylderau seiciatrig,” meddai’r Athro Lawrence Wilkinson, Cyfarwyddwr Gwyddonol Sefydliad Ymchwil Niwrowyddoniaeth ac Iechyd Meddwl (NMHRI) a fydd yn cyd-arwain y bartneriaeth yng Nghaerdydd.

“Bydd arbenigedd Takeda mewn darganfod cyffuriau’n llwyddiannus yn galluogi ein huchelgais i ddefnyddio ein hymchwil i ddod o hyd i driniaethau gwell ar gyfer anhwylderau cyffredin yr ymennydd sydd â lefelau uchel o angen heb ei ddiwallu.”

Dywedodd yr Athro Jeremy Hall, Cyfarwyddwr Sefydliad Ymchwil Niwrowyddoniaeth ac Iechyd Meddwl a chyd-arweinydd:

“Rydym wedi ymrwymo i drosi ein hymchwil sylfaenol a chlinigol yn driniaethau mwy diogel a mwy effeithiol i gleifion.”

Bydd y cydweithrediad yn caniatáu i Takeda gael mynediad at ymchwil seiciatreg fiolegol flaenllaw yn y byd a’r seilwaith cysylltiedig ar draws y Brifysgol, gan gynnwys Canolfan MRC ar gyfer Geneteg a Genomeg Niwroseiciatrig, NMHRI, y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl, ac Uned Atgyweirio’r Ymennydd a Niwrotherapiwteg Mewngreuanol.

“Drwy weithio mewn partneriaeth ag arbenigwyr niwroseiciatrig gwyddonol a chlinigol blaenllaw yn y byd ym Mhrifysgol Caerdydd, mae gennym gyfle unigryw i greu ton newydd o feddyginiaethau, sydd wedi’u seilio ar ddealltwriaeth genomig o’r clefyd, ar gyfer cleifion sy’n dioddef o sgitsoffrenia ac anhwylderau seiciatrig cysylltiedig,” meddai Ceri Davies, Pennaeth yr Uned Darganfod Cyffuriau Niwrowyddoniaeth yn Takeda.

Mae anhwylderau seiciatrig mawr, gan gynnwys iselder, sgitsoffrenia, awtistiaeth ac anhwylder deubegwn, gyda’i gilydd yn cynrychioli angen iechyd enfawr heb ei ddiwallu, gan gyfrif am oddeutu 20% o’r holl flynyddoedd a gollir oherwydd anabledd yn fyd-eang, yn ôl Sefydliad Iechyd y Byd.

Dywedodd yr Athro Syr Michael Owen, Cyfarwyddwr Canolfan y Cyngor Ymchwil Feddygol ar gyfer Geneteg a Genomeg Niwroseiciatrig:

“Mae cynnydd therapiwtig ar gyfer y cyflyrau hyn wedi’i gyfyngu gan ddiffyg dealltwriaeth o’u prif achosion, fodd bynnag mae datblygiadau genetig mawr yn y degawd diwethaf, y mae llawer ohonynt wedi’u harwain gan Brifysgol Caerdydd, wedi rhoi cipolwg newydd a dibynadwy ar eu hachosrwydd biolegol. Gyda’n partner Takeda mae gennym gyfle digynsail i ddatblygu dulliau therapiwtig newydd ar gyfer anhwylderau niwroseiciatrig.”

Cafodd gweithgaredd ymgysylltu Cwpan TRIDENT ei ddangos am y tro cyntaf yng Nghynhadledd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru (HCRW), yn Stadiwm Criced SWALEC Caerdydd, ar 25 Hydref ac aeth ymlaen i ennill gwobr y Stondin Ryngweithiol Orau.

Mae’r llwyddiant yn nodi’r drydedd flwyddyn yn olynol i Uned BRAIN ennill y wobr hon am eu mentrau ymgysylltu, yn dilyn Operation Brain a’r prosiect celf ‘Splodge on the Brain’ a dderbyniodd y nifer fwyaf o bleidleisiau gan gynrychiolwyr yn y ddau ddigwyddiad blaenorol.

Cwpan TRIDENT

Gêm a ail-bwrpaswyd o Golff Mini Celloedd Bonyn y fyfyrwraig PhD Zoe Noakes oedd Cwpan TRIDENT, yn dilyn rhediad hynod lwyddiannus yng Nghanolfan MRC ar gyfer Geneteg a Genomeg Niwroseiciatrig (MRC CNGG) yng Nghaerdydd. Wedi’i ysbrydoli gan dreial TRIDENT , bwriad y gêm oedd symboleiddio rhwystrau a wynebir er mwyn cwblhau treialon clinigol a’r heriau ymarferol o gyrraedd rhannau penodol o’r ymennydd i drin cyflyrau niwrolegol.

Gyda’r bêl golff yn symboleiddio celloedd ffetws, y nod oedd tywys y bêl, gan lywio trwy’r rhwystrau ar y cwrs er mwyn cyrraedd y striatwm. Roedd pob rhwystr yn symboleiddio gwahanol heriau o fewn y treial megis cymeradwyaeth foesegol, rheoleiddio, ac argaeledd a chymhwysedd cyfranogwyr. Pe bai’r bêl yn rholio oddi ar y cwrs byddai’r treial yn methu.

Gwahoddwyd y cyfranogwyr i chwarae gêm o golff a cheisio cael twll mewn un, gan oresgyn rhwystrau i gael y bêl i’r striatwm ar y diwedd, gan gofnodi faint o ergydion a gymerodd i suddo’r bêl i’r twll.

Roedd gan y gystadleuaeth lif cyson o gyfranogwyr chwilfrydig a chystadleuol, gan ddenu gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, academyddion a chynrychiolwyr lleyg o bob cwr o Gymru, gyda chwaraewyr yn ymarfer eu siglenni gorau er mwyn ennill y prif wobrau.

Lansio Cwpan TRIDENT am y tro cyntaf gyda thwll mewn un

Gwobr y stondin ryngweithiol orau

“Rydym yn hynod o falch o fod wedi gallu ennill y wobr hon i’r Uned BRAIN am y drydedd tro,” meddai Rheolwr yr Uned BRAIN, Dr Cassy Ashman.

“Roedd y gynhadledd yn gyfle gwych i gael y cynrychiolwyr i feddwl am bwysigrwydd cynnwys y cyhoedd mewn ymchwil, boed ar lefel treialon clinigol neu wrth lunio grantiau ymchwil yn y ffordd y mae Astrid Burrell, aelod o BRAIN Involve a chyd-ymgeisydd treial TRIDENT, a oedd hefyd yn bresennol ar y diwrnod, wedi’i wneud. Ein nod yw pwysleisio pwysigrwydd ymchwil wrth ddod o hyd i therapïau mwy effeithiol ar gyfer clefyd Huntington a’r cyflyrau eraill rydyn ni’n eu cynnwys.”

Mae Cymrawd Ymchwil Clinigol Uned BRAIN, Dr Feras Sharouf, yn gweithio ar Dreial TRIDENT ac yn egluro

“Mae treial TRIDENT yn edrych ar ddiogelwch trawsblannu celloedd yr ymennydd i striatwm pobl â Chlefyd Huntington. Credir, mewn therapi posibl yn y dyfodol, y gallai celloedd ‘iach’ ddisodli’r rhai sydd ar goll yn y rhanbarth hwn o’r ymennydd. Roedd yn wych helpu Cassy a’r tîm i ddatblygu’r gweithgaredd ymgysylltu cyhoeddus hwn, gan fod cefnogaeth y cyhoedd yn allweddol mewn treialon clinigol fel hyn.”

Mae Dr Cassy Ashman yn ychwanegu,

“Roedd yn wirioneddol werthfawr gweld ein gêm yn denu pobl yn y gynhadledd i ddysgu mwy am TRIDENT; Hoffwn ddiolch i’n swyddog cyfathrebu Camila Araya-Larrain, ac aelodau tîm TRIDENT Dr Feras Sharouf a Dr Cheney Drew am eu holl gymorth i ddatblygu’r gweithgaredd. Gobeithio y gallwn gyflawni eto yng nghynhadledd y flwyddyn nesaf ac arddangos mwy o’r ymchwil gyffrous rydyn ni’n ei wneud yn Uned BRAIN!”

Dysgwch fwy am yr Uned BRAIN yma: https://brainwalesprd.wpengine.com/
X

Search for: