Y sgan mwyaf manwl o wifrau’r ymennydd dynol
Mae ffilm newydd anhygoel yn dangos yr ymennydd dynol mewn manylder digyffelyb, diolch i bartneriaeth rhwng Prifysgol Caerdydd a Siemens Healthineers.

Sganiwyd ymennydd Gohebydd Meddygol y BBC, Fergus Walsh, yng Nghanolfan Delweddu Ymchwil yr Ymennydd Prifysgol Caerdydd (CUBRIC) gan ddefnyddio sganiwr MRI mwyaf pwerus Ewrop – y Magnetom Skyra Connectom 3T.

Rendro sinematig

Defnyddiodd Siemens Healthineers y data sgan i gynhyrchu delweddau anhygoel o ymennydd Fergus trwy addasu techneg a ddefnyddir yn y diwydiant ffilm a elwir yn rendro sinematig. Mae’r delweddau hyn yn rhoi golwg newydd syfrdanol ar y llwybrau a gymerir gan y mater gwyn, gan ddatgelu’r set gymhleth o gysylltiadau sy’n sail i swyddogaeth yr ymennydd.

Gwirfoddolwr arall i gael ei sganio oedd Sian Rowlands sydd â sglerosis ymledol. Mae sganiau confensiynol yn dangos briwiau – ardaloedd o ddifrod – yn glir yn ymennydd cleifion MS. Ond gall y sgan uwch, sy’n dangos dwysedd axonaidd, helpu i esbonio sut mae’r briwiau’n effeithio ar lwybrau modur a gwybyddol – a all sbarduno problemau symud a blinder eithafol Sian.

Dywedodd yr Athro Derek Jones, Cyfarwyddwr CUBRIC:

“Mae’r manylder anhygoel a ddangosir yn y sganiau hyn yn tynnu sylw at y posibiliadau sydd ar gael i dîm talentog CUBRIC sydd bellach â mynediad at yr offer mwyaf datblygedig o’i fath yn y byd.

“Bydd y sganiwr microstrwythurol yn cael ei ddefnyddio ar gyfer ymchwil a fydd o bosibl yn cael effaith gadarnhaol ddofn ar fywydau pobl ledled y byd…”

“Yn CUBRIC rydym yn edrych i ddarparu mewnwelediadau digynsail i achosion cyflyrau niwrolegol a seiciatrig fel dementia, sgitsoffrenia a sglerosis ymledol, yn ogystal â deall sut mae’r ymennydd arferol ac iach yn gweithio.” Yr Athro Derek Jones, Cyfarwyddwr CUBRIC

Mae CUBRIC yn dwyn ynghyd arbenigedd sydd wedi sefydlu Prifysgol Caerdydd fel un o dair prifysgol orau’r DU ar gyfer Seicoleg, Seiciatreg a Niwrowyddoniaeth, ochr yn ochr â phrifysgolion Rhydychen a Chaergrawnt.

Yr offer niwrodelweddu gorau yn y byd

Dau ddyn yn gwylio rhywun yn mynd i mewn i sganiwr MRI

Mae’r Ganolfan gwerth £44 miliwn, a ddyluniwyd gan y cwmni pensaernïaeth a thechnoleg byd-eang IBI Group, ac a adeiladwyd gan y cwmni adeiladu BAM, bedair gwaith yn fwy na chyfleusterau ymchwil delweddu ymennydd blaenorol y Brifysgol. Mae’n gartref i’r offer niwroddelweddu gorau yn y byd i helpu i ddatrys dirgelion yr ymennydd dynol.

Mae’r cyfleuster newydd wedi cael ei ariannu’n rhannol gan y Cyngor Ymchwil Peirianneg a Gwyddorau Ffisegol (EPSRC), Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru, y Cyngor Ymchwil Feddygol (MRC), Ymddiriedolaeth Wellcome, Llywodraeth Cymru a Sefydliad Wolfson.

Gyda’i gilydd, mae’r buddsoddiadau hyn yn cefnogi arloesedd mewn ymchwil delweddu’r ymennydd o’r radd flaenaf, gan gynnwys creu swyddi ymchwil medrus iawn yng Nghymru.

X

Search for: