12 May 2017
Heddiw yw dechrau Wythnos Ymwybyddiaeth Clefyd Huntington, ymgyrch i gynyddu proffil cyflwr sy’n cael ei gamddeall yn fawr.
Drwy gydol yr wythnos rydym yn bwriadu cyhoeddi cyfres o astudiaethau achos sy’n tynnu sylw at yr amrywiaeth o ymchwil i glefyd Huntington sy’n digwydd yn y Brifysgol, y gwyddonwyr sy’n cynnal yr ymchwil, a’r effaith y gall y clefyd ei chael ar fywydau pobl.
Anhwylder etifeddol yw clefyd Huntington, cyflwr niwroddirywiol nad yw’n adnabyddus iawn a achosir gan un genyn diffygiol sy’n ymosod ar system nerfol ganolog yr ymennydd, gyda difrod yn effeithio ar allu person i siarad, cerdded a theimlo.
Yn ôl Cymdeithas Clefyd Huntington, elusen genedlaethol sy’n cefnogi pobl sydd wedi’u heffeithio gan HD, mae tua 28,480 o bobl yn byw gyda risg genetig uchel o etifeddu clefyd Huntington yng Nghymru a Lloegr.
Mae gan blentyn sydd â rhiant HD siawns o 50% o etifeddu’r genyn sy’n achosi’r anhwylder hwn sydd ar hyn o bryd yn anwelladwy. Nid yw’n hepgor cenhedlaeth, a bydd plentyn sy’n profi’n bositif am HD, ar ryw adeg, yn datblygu symptomau’r clefyd.
Yr wythnos hon byddwn yn archwilio’r ymchwil MRI sy’n cael ei chynnal gan Dr Hannah Furby, y gwaith gwybyddol sy’n cael ei arwain gan Dr Emma Yhnell a’r ymchwil celloedd bonyn sy’n cael ei chynnal gan Jasmine Donaldson, myfyrwraig PhD dan oruchwyliaeth yr Athro Lesley Jones.
Byddwn hefyd yn defnyddio Twitter i dynnu sylw at ein hymchwil, y ffeithiau am glefyd Huntington a rhywfaint o’r gefnogaeth sydd ar gael i deuluoedd sydd â’r cyflwr. Gallwch naill ai ddilyn ein hymgyrch ar @neurosciencecu neu gadw i fyny â’r ymgyrch ehangach gan ddefnyddio #HDawarenessweek .
Search for: