Trawsblannu celloedd yng nghlefyd Huntington

Mae Prifysgol Caerdydd yn falch o gyhoeddi cynlluniau i gynnal gweithdrefn trawsblannu celloedd bonyn a allai fod o fudd i bobl yr effeithir arnynt gan glefyd Huntington (HD) yng Nghymru.

 

Dechreuodd yr Uned Atgyweirio’r Ymennydd a Niwrotherapiwteg Mewngreuanol (BRAIN) Wythnos Ymwybyddiaeth Clefyd Huntington (15-21 Mai) drwy ddatgelu ei bwriad i gyflawni’r cyntaf o’i gweithdrefnau arloesol erbyn diwedd y flwyddyn hon.

Nod y llawdriniaeth yw defnyddio technolegau uwch i gyflwyno celloedd bonyn i gleifion sy’n byw gyda HD – anhwylder niwroddirywiol etifeddol sy’n ymosod ar y system nerfol ganolog – yn y gobaith o arafu datblygiad symptomau.

Yn wahanol i unrhyw anhwylder niwroddirywiol arall, mae clefyd Huntington yn cael ei achosi gan un genyn diffygiol, sydd ar hyn o bryd yn anwelladwy ac yn effeithio ar bopeth o symudiad person i’w deimladau a’u prosesau meddwl.

Dyfarnwyd Cronfa Bontio Gwyddorau Bywyd i Athro Niwrolawdriniaeth Swyddogaethol yn yr Uned (BRAIN) William Gray i gynnal y weithdrefn newydd, a fydd yn asesu effeithiolrwydd system gyflenwi newydd mewn trawsblannu celloedd bonyn, mewn tri chlaf â chlefyd Huntington erbyn mis Mawrth 2018. Bydd y system gyflenwi yn seiliedig ar y dechnoleg cyflenwi cyffuriau a ddatblygwyd gan Renishaw plc.

 

 

Dyma fydd yr ail dro i’r Brifysgol gydweithio â’r cwmni peirianneg a thechnoleg wyddonol blaenllaw yn y byd, Renishaw, y gwnaeth ei dechnoleg neuromate ® hefyd alluogi’r Athro Gray i gyflawni’r niwrolawdriniaeth epilepsi â chymorth robot gyntaf erioed yng Nghymru yn gynharach eleni.

Gobeithir y bydd y datblygiad diweddaraf hwn yn gam nesaf ar lwybr y Brifysgol tuag at ddod yn ganolfan ragoriaeth ar gyfer datblygu a chyflwyno therapïau newydd ar gyfer atgyweirio’r ymennydd mewn clefydau niwroddirywiol.

“Mae’r driniaeth yn nodi cam nesaf yn ein brwydr i frwydro yn erbyn effeithiau llethol yr anhwylder hwn sydd ar hyn o bryd yn anwelladwy,” meddai’r Athro Gray.

“Er efallai na fydd mesuradwyedd llwyddiant y llawdriniaeth yn glir am fwy na blwyddyn ar ôl y trawsblaniad, rydym yn obeithiol y gallai'r driniaeth gyfrannu'n sylweddol at ddatblygiad hirdymor therapïau i filoedd o bobl sy'n byw gyda chlefyd Huntington.” Yr Athro William Gray Athro Niwrolawdriniaeth Swyddogaethol, Niwrowyddoniaeth ac Ymchwil Iechyd Meddwl

Dywedodd Cyfarwyddwr Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, Jon Bisson:

“Rwyf wrth fy modd yn gweld BRAIN yn chwarae rhan mor hanfodol wrth yrru therapïau newydd i ymarfer clinigol. Mae’r uned yn un o nifer o ganolfannau ac unedau ymchwil a gydnabyddir yn rhyngwladol yng Nghymru, gan gael effaith gadarnhaol ar iechyd a lles pobl Cymru.”

Ychwanegodd Paul Skinner, Rheolwr Cyffredinol Cynhyrchion Niwrolegol yn Renishaw:

“Rydym yn falch bod arbenigedd Renishaw mewn peirianneg yn parhau i gefnogi ymchwil arloesol yn Ysbyty Prifysgol Cymru. Mae’n gyffrous bod yn rhan o gydweithrediad sy’n gweld peirianneg fanwl ac ymarfer llawfeddygol arloesol yn gweithio mewn synergedd i wella canlyniadau cleifion.”

X

Search for: